Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth wedi’r ddamwain ffordd ddoe

Bu’r A485 rhwng Llanbed a Llangybi ar gau am oriau neithiwr

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
6667D254-FAB0-4185-83C0-65372CC7200A

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i wrthdrawiad ffordd rhwng dau gerbyd a ddigwyddodd ychydig cyn 3yp ddydd Llun 9fed Medi 2024.

Roedd tryc pick-up Toyota du a threlar a Harley Davidson glas yn rhan o’r gwrthdrawiad ar yr A485 rhwng Llanbed a Llangybi.

Cafodd merch oedd ar y beic modur ei chludo i’r ysbyty gydag anafiadau na chredir eu bod yn bygwth bywyd.

Cafodd dyn 66 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf drwy yrru’n beryglus. Mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad tra’n aros am ymholiadau pellach gan yr heddlu.

Cafodd y ffordd ei chau, a’i hailagor toc wedi 7yh.

Gofynnir i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu unrhyw un â lluniau camera dashfwrdd a allai helpu swyddogion gyda’u hymchwiliad, i’w riportio i Heddlu Dyfed-Powys, naill ai ar-lein , drwy e-bostio 101@dyfed-powys.police.uk, neu drwy ffonio 101. Os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd tecstiwch y rhif difrys ar 07811 311 908 gan ddyfynnu cyfeirnod: 211 of the 9th

Dweud eich dweud