HSBC : Difrod i beiriant twll-yn-y-wal

Difrod sylweddol i’r peiriant arian parod ar Sgwâr Harford.

gan Ifan Meredith
IMG_1797Tomos Lloyd-Jones

Fore Sadwrn, gwelwyd difrod i beiriant twll-yn-y-wal HSBC ar Sgwâr Harford, Llanbed. Mae’n ymddangos fod rhywun wedi taro’r peiriant yn gryf gan arwain at y gwydr yn cael ei chwalu ac felly nid yw cwsmeriaid yn gallu defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Nodir fod peiriannau arian parod (ATM) ar gael yn siop Premier, Sainsburys ac yn y Co-op.

“Mwy o ddifrod troseddol yn y dre [emoji gwyneb cas]”

Dyma oedd ymateb Cyngor Tref Llanbed ar neges ar Facebook. Daw hyn yn dilyn stori yn y dref am ddifrod i Gloc Neuadd y Dref a chynnydd mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dweud eich dweud