Lisa Evans wedi codi £25,300 gyda’i chyfnither mewn dawns elusennol, raffl ac arwerthiant

Cefnogi Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip gan fod Tad-cu wedi arfer â bod mas ym mhob tywydd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
7EE819F4-C3B5-4E9C-8353

Lowri a Lisa yn cyflwyno siec i dîm Ward Bryngolau

Mae dawns elusennol, raffl ac arwerthiant wedi codi swm gwych o £25,300 ar gyfer Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip.

Trefnwyd y digwyddiad gan y cyfneitherod Lisa Ann Evans, 22, o Langybi a Lowri Elen Jones, 20, o Beniel, ac fe’i cynhaliwyd yn Neuadd Bronwydd, ger Caerfyrddin ym mis Mehefin.

Cefnogwyd y digwyddiad yn garedig iawn gan Heather Price, un o weithwyr lleol Bancio Busnes Barclays. Mae’r cyfanswm a godwyd yn cynnwys rhodd o £1,000 mewn arian cyfatebol gan Barclays.

Bu tad-cu Lisa a Lowri yn glaf ar Ward Bryngolau sef uned iechyd meddwl oedolion hŷn a phenderfynwyd trefnu’r digwyddiad er budd yr Apêl oherwydd hynny.

Dywedodd Lowri:

“Mae’r achos teilwng hwn yn agos iawn at ein calonnau fel teulu. Penderfynwyd cynnal dawns i godi arian at yr Apêl i ddangos ein gwerthfawrogiad a’n diolchgarwch i’r ward.

“Mae fy Nhad-cu yn gyn-ffermwr, felly mae wedi arfer â’r holl awyr iach a bod mas ym mhob tywydd.

“Yn ôl ym mis Awst 2023, cafodd ei symud i Ward Bryngolau. Siomedig oedd gwybod nad oedd y man awyr agored yn addas ar gyfer y cleifion, o gofio pa mor bwysig yw fitamin D i’n hiechyd meddwl, heb sôn am glaf sydd mewn gofal i wella eu hiechyd meddwl. Bydd y gerddi hyn o fudd i bob claf ar y ward beth bynnag fo’u cefndir.

“Gwerthodd y tocynnau i gyd mewn llai nag wythnos ar ôl i ni eu rhyddhau. Roeddwn i a Lisa wedi ein syfrdanu gan faint o ddiddordeb a chefnogaeth a gawsom gan ffrindiau.

“Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb, gan gynnwys yr holl fusnesau lleol, a gefnogodd y digwyddiad a’i wneud yn gymaint o lwyddiant. Rydym wrth ein bodd gyda’r swm a godwyd gennym!”

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda:

“Rydym wedi cael ein syfrdanu gan waith codi arian Lisa a Lowri ar gyfer yr Apêl ac rydym am ddiolch yn fawr iawn iddynt am eu gwaith caled a’u hymroddiad anhygoel, ac i bawb a fynychodd ac a gefnogodd y digwyddiad.

“Bydd y cyfanswm gwych a godwyd gan y ddawns yn hwb enfawr i’r Apêl, ac rydym nawr hyd yn oed yn nes at gyrraedd ein targed.”