C.Ff.I. Llanllwni’n cefnogi elusennau’n hael

Aelodau Clwb Fferrmwyr Ifanc Llanllwni’n cyflwyno dros £11,500 i achosion da.

gan Owain Davies

Nos Fawrth Chwefror 6ed cynhaliodd C.Ff.I. Llanllwni noson gyflwyno sieciau yn dilyn ymdrechion codi arian yr aelodau dros y flwyddyn a aeth heibio.

Yn dilyn Sioe flynyddol lwyddiannus Mis Awst rhannwyd yr elw rhwng Uned Gofal Coronaidd a Chronfa Oncoleg Caerfyrddin. Derbyniodd dwy aelod o staff yr uned siec o £4,720.62 tra derbyniodd Kyrian Jenkins, un o aelodau’r clwb siec o’r un faint at y gronfa er cof am ei ewythr, Eilian Jenkins, cyn aelod.

Bu’r aelodau’n canu carolau o amgylch y fro cyn Nadolig er budd Uned Gancr Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli ac Epilepsi Cymru. Dyma ddewis elusennau llysgenhadon y ffederasiwn sirol eleni, y ddau’n aelodau o glwb Llanllwni. Felly’r llysgenhades, Betsan Jones dderbyniodd y siec o £1,095.97 at Uned Gancr Llanelli.  Felly hefyd y cyflwynwyd i gynrychiolydd Epilepsi Cymru a soniodd ychydig am sut fydd yr arian yn cael ei wario.

Felly roedd swm anrhydeddus iawn o dros £11,600 wedi ei gyflwyno mewn un noson. Cryn glod i aelodau’r clwb. Diolchwyd i bawb a gyfrannodd ac i aelodau’r clwb am eu gwaith caled. Bellach mae’r trefniadau ar gyfer sioe 2024 ar waith!