Neges gan Anne Wade, Rheolwr Prosiect ar gyfer Prosiect Bwyd Cymunedol Llanbed.
“Ble oedd pawb ddydd Mawrth? Ai’r tywydd gwlyb oedd hynny, neu ai oherwydd ei fod yn wyliau ysgol? Dydw i ddim yn gwybod. Oherwydd bod cyn lleied o gwsmeriaid o gwmpas, fe gafodd llawer o bobl sawl tusw o flodau gan i Sainsburys roi llawer yr wythnos hon. Doedd neb yn cwyno serch hynny.
Bu’n rhaid i ni gyfethol rhywfaint o gymorth i’r gegin, gan fod tri gwirfoddolwr yn methu bod yno, ond fe gamodd pobl i’r adwy. Diolch i chi, mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth pan allwn lanw’r bwlch fel hyn.
Cawsom roddion o ddillad, planhigion llysiau a grawnwin y tro hwn. Aeth y cyfan yn gyflym – yn enwedig y planhigion. Rhaid bod rhai pobl â bysedd gwyrdd iawn o gwmpas. Cofiwch, os yw eich planhigyn yn cynhyrchu mwy o nag y gallwch ei ddefnyddio, bydd y Prosiect Bwyd yn gallu gwneud defnydd da ohono os byddwch yn dod ag ef i mewn i ni.
A sôn am ddod â gormodedd o fwydydd i mewn, rydyn ni’n rhedeg yn fyr ar focsys 6 wy unwaith eto. Cofiwch ddod â’ch rhai gwag i mewn neu ni fyddwn yn gallu cynnig wyau. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gallu cynnig dewis o wyau cyw iâr neu hwyaid, ond unwaith mae ein stoc o focsys wedi mynd……gallech chi bob amser fynd ag wyau mewn bag papur am wn i! Efallai y bydd gennych omlet erbyn i chi gyrraedd adref!
Cyn bo hir byddwn yn ail-stocio cynhyrchion misglwyf ac felly’n gallu eu cynnig eto. (Collais y manylion cyswllt a bu’n rhaid i mi eu holrhain eto. Fi’n dwp!)
Diolch i roddwyr yr wythnos hon:- Animals In Mind, Sainsburys, Watson a Pratts, LadyBug, Delyth@Tony’s, Dani, Sue, Tony.
Rydyn ni bob amser yn Mind’s Eye Venue bob dydd Mawrth, yn paratoi o 11am ac ar agor i’r cyhoedd 12-2pm. Nid oes angen i chi gael eich cyfeirio atom, dim ond troi lan os oes angen parsel bwyd arnoch, a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch helpu. Fel arfer mae diodydd poeth a bwyd poeth ar gael, yn rhad ac am ddim, hefyd, tra byddwch yn aros am eich tro.
Byddai croeso mawr i unrhyw wirfoddolwyr newydd hefyd. Po fwyaf sydd gennym, yr hawsaf yw hi i gyflenwi ar gyfer pobl na allant wneud wythnos benodol. Nid ydym yn mynnu bod unrhyw wirfoddolwr yn dod BOB WYTHNOS O 11-2, os mai dim ond yn achlysurol neu am ran o’r amser y gallwch chi ei wneud, yna mae hynny hefyd yn help mawr i ni. Os ydych chi’n fodlon helpu, yna dewch a chyflwynwch eich hunan i un o’n gwirfoddolwyr, neu anfonwch e-bost at food.project.lampeter@gmail.com. Edrychwn ymlaen i’ch gweld.”