Roedd yn bleser mawr gan Dîm Menter Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gefnogi Rownd Derfynol Ranbarthol a Seremoni Wobrwyo Menter yr Ifanc, a gynhaliwyd ar gampws Llambed y Brifysgol. Mae’r cydweithrediad yn nodi cam sylweddol ymlaen o ran meithrin yr ysbryd entrepreneuraidd ymhlith unigolion ifanc a rhoi sgiliau hanfodol iddynt i’r dyfodol.
Mae Menter yr Ifanc yn elusen genedlaethol sydd wedi ymrwymo i symbylu pobl ifanc ar draws y DU i lwyddo yn y byd gwaith sy’n datblygu. A hwythau â chenhadaeth i rymuso pobl ifanc i ddarganfod, datblygu, a dathlu eu sgiliau a’u potensial, mae Menter yr Ifanc yn canolbwyntio ar leihau diweithdra ymhlith pobl ifanc a phontio’r bwlch sgiliau y mae llawer o unigolion ifanc yn ei wynebu yn y byd sydd ohoni.
Roedd Rebecca Jones, Rheolwr Datblygu Menter yn PCYDDS yn rhan o’r panel beirniaid ar gyfer y digwyddiad. Meddai:
“Mae menter yn sgìl craidd y dyddiau yma ac roedd gweld y bobl ifanc yn cymryd rhan yn yr arloesi ac ochr ymarferol rhedeg busnes yn bleser pur.”
Cymerodd pum ysgol o ganolbarth Cymru ran yn y digwyddiad, yn cynnwys Ysgol Bro Pedr, Ysgol Penweddig, Ysgol Penglais, Ysgol Uwchradd y Drenewydd – Campws John Beddoes, ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth. Arddangosodd pob ysgol syniadau menter unigryw gan roi cyflwyniadau i’r panel beirniaid.
Enillwyr Gwobr Menter yr Ifanc oedd Ysgol Penweddig â’u syniad busnes o’r enw ‘Llanw’, llyfr coginio â ffocws ar ddefnyddio bwyd sydd dros ben yn effeithiol. Ysgol Uwchradd y Drenewydd – Campws John Beddoes oedd yn ail gyda’u syniad busnes ‘Wag tags’, a gynigiai dagiau creadigol ar gyfer enwau anifeiliaid anwes.
Meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Llambed:
“Mae’n bleser cefnogi digwyddiadau fel Seremoni Wobrwyo Menter yr Ifanc sy’n rhoi sylw i ysbryd arloesol a photensial ein pobl ifanc. Mae gweld y darpar entrepreneuriaid hyn ar waith yn cadarnhau unwaith eto ein hymrwymiad i feithrin talent a sgiliau entrepreneuraidd ar ein campws.”
Cymeradwywyd y digwyddiad hefyd gan Maggie Ayre, Rheolwr Rhanbarthol Partneriaethau Addysgol De-orllewin Lloegr a De a Chanolbarth Cymru gyda Menter yr Ifanc, a phwysleisiodd effaith gadarnhaol mentrau o’r fath ar ddyfodol pobl ifanc.
“Mae pob person ifanc yn haeddu’r cyfle i ddysgu sgiliau hanfodol a datblygu meddylfryd mentrus. Mae digwyddiadau fel Arddangosfa Menter yr Ifanc yn chwarae rôl hollbwysig wrth droi’r weledigaeth hon yn realiti. Mae’n bleser mawr i mi fod pum ysgol o Ganolbarth Cymru wedi’u cynrychioli yn nigwyddiad 2024 ac edrychaf ymlaen at weithio gyda mwy o ysgolion, sefydliadau a phobl ifanc yng Nghanolbarth Cymru yn y blynyddoedd i ddod.”
Mae’r Tîm Menter ar Gampws Llambed PCYDDS yn edrych ymlaen at barhau â’i gefnogaeth i fentrau sy’n grymuso pobl ifanc, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr ac yn cyfrannu at adeiladu dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy i bawb.
Ynglŷn â Menter yr Ifanc
Er 1962, mae Menter yr Ifanc wedi bod yn gweithio gyda’r sectorau busnes ac addysg i ymgysylltu â mwy na phedair miliwn o bobl ifanc. Drwy raglenni ymarferol ym meysydd cyflogadwyedd, menter, ac addysg ariannol, mae Menter yr Ifanc yn ceisio lleihau diweithdra ymhlith pobl ifanc, helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial tu hwnt i addysg, a grymuso cenhedlaeth i ddysgu, gweithio, a byw.
I gael rhagor o wybodaeth am Fenter yr Ifanc a’i mentrau, ewch i Young Enterprise | Leading UK Charity | Empowering Young People (young-enterprise.org.uk)