Ras 10 milltir Teifi

Dros 200 yn rhedeg yn y ras ffordd flynyddol

gan Richard Marks
John-Collier-ac-Owain-Schiavone

John Collier, Iwan Jones ac Owain Schiavone ar bont Llanfair

Michael-Kallenberg-ar-bont-Llanfair

Michael Kallenberg yn arwain ar bont Llanfair

Simon-Hall-ar-bont-Llanfair

Simon Hall ar bont Llanfair

Polly-Summers-a-Meic-Davies

Polly Summers a Meic Davies ar bont Llanfair

David-Jones-152-ac-Alan-Dabies-153

Alan Davies (153) a David Jones (152) gyda dau o redwyr Port Talbot ar bont Llanfair

Joseph-Summers

Joseph Summers ar bont Llanfair

Dylan-Davies

Dylan Davies ar bont Llanfair

Steven-Holmes-a-Lou-Summers

Steven Holmes yn arwain Lou Summers dros bont Llanfair

Delyth-Crimes

Delyth Crimes ar bont Llanfair

Steph-Davies

Steph Davies ar bont Llanfair

Naomi-Sutton

Naomi Sutton yn arwain ras y menywod (llun gan Rich Hayward)

Ras ffordd 10 milltir Teifi yn Llanbed ar y 31ain o Fawrth eleni oedd y gystadleuaeth fwyaf a drefnwyd gan glwb Sarn Helen yn ei hanes wrth i 202 o redwyr gwblhau’r cwrs cyfarwydd o faes rygbi’r dref i Lanfair Clydogau a Chellan ac yn ôl.

Michael Kallenberg, yn wreiddiol o Aberteifi ac yn awr gyda’r Awyrlu yn Brize Norton ac yn rhedeg dros glwb Abertawe oedd enillydd y ras mewn 52 munud a 49 eiliad a Naomi Sutton (63:12) o glwb Run4all Castell Nedd oedd y fenyw gyntaf wedi brwydr glos gydag Emma Price (63:47.)

Da oedd gweld fod enillydd 2022, John Collier o Sir Benfro (56:04) wedi cael cystal adferiad wedi damwain feicio ddifrifol beth amser yn ôl nes dod yn ail, ychydig o flaen enillydd 2023, Owain Schiavone (56:27) o glwb Aberystwyth.

Yr oedd 38 o aelodau Sarn Helen yn rhedeg ond tipyn o gamp oedd dod yn y tri cyntaf mewn unrhyw ddosbarth gan mor gyson oedd safon y ras ym mhob dosbarth. Simon Hall oedd y cyntaf ohonynt i orffen (61:01) gan ddod yn 13eg yn y ras ac yn 3ydd yn nosbarth y dynion dros 40. Llwyddodd Polly Summers (65:11) i wneud yr un peth yn nosbarth y menywod dan 35 ac aeth ei mam Lou Summers (73:22) un yn well gan ddod yn ail yn nosbarth y menywod dros 55 gyda Delyth Crimes (77:34) yn 3ydd ynddo, ac yn nosbarth y menywod dros 35 daeth Steph Davies (76:44) yn 3ydd.

Daeth aelodau eraill o’r Clwb yn agos iawn i’r gwobrau hefyd gan ddod yn 4ydd – David Jones (61:52) yn nosbarth y dynion dros 40, Michael Davies (64:58) yn nosbarth y dynion dros 50, ac Eleri Rivers (74:30) yn nosbarth y menywod dros 45. Nid yw dosbarth y dynion dros 60  yn cipio’r sylw blaenaf fel rheol ond, nid am y tro cyntaf yn y ras hon, rhaid cyfarch buddugwr y dosbarth hwnnw ar dorri record genedlaethol gan i’r anhygoel Alan Davies (62:25) o glwb Abertawe ychwanegu record Gymreig arall at ei restr, sef yr amser cyflymaf mewn ras ffordd 10 milltir gan redwr dros 70 ac ef gyda llaw oedd enillydd dosbarth y dynion dros 60 yn y ras. Os yw hynny’n destun syndod rhaid cofio i Martin Rees o Bort Talbot osod dwy record oedran byd yn y ras hon rhyw ddeng mlynedd yn ôl. Os mai tasg anodd i redwyr Sarn Helen oedd cipio’r gwobrau unigolion, nhw oedd y tîm buddugol gyda Joseph Summers (61:22) a Dylan Davies ( 62:59) yn ymuno a Simon Hall a David Jones yn y 22 safle uchaf i drechu’r clybiau eraill.

Yn y seremoni wobrwyo eleni cyflwynwyd tlws arbennig i Heulwen Jones am ei chyfraniad i fywyd y clwb a’r gymuned dros y flwyddyn, sef tlws er cof am y diweddar Michael Morgans a fu’n gymwynaswr mor ffyddlon i’r Clwb a’i gymuned dros y blynyddoedd.  Yn yr un seremoni cyflwynwyd siec am £305.90 i gynrychiolydd banc bwyd Llanbed, yr elusen leol y dewisodd y Clwb ei chefnogi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

(Lluniau gan Aneurin James oni nodir yn wahanol)

Dweud eich dweud