60 Mlynedd o Wasanaeth ar y cyd yng Ngorsaf Dân Llanbed

Cyflwyno tystysgrifau i dri Diffoddwr Tân am 20 mlynedd o ymroddiad a gwasanaeth i’r gymuned leol

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
6C893FDE-BA28-4332-8AE1
CBCF60F7-926B-4A15-8B72

Cadlywydd yr Orsaf Danny Bartley a’r Rheolwr Gwylfa Aled Morgan.

9B84F3E1-B294-4185-8B5C

Cadlywydd yr Orsaf Danny Bartley a’r Diffoddwr Tân Huw Rowcliffe.

96EC0E4E-85D3-4D59-8712

Cadlywydd yr Orsaf Danny Bartley a’r Diffoddwr Tân Glyn Jones.

Ddydd Mawrth, Ebrill 2ail, cyflwynwyd tystysgrifau i dri Diffoddwr Tân o Orsaf Dân Llanbedr Pont Steffan am 20 mlynedd o ymroddiad a gwasanaeth i’r gymuned leol.

Gyda chyfanswm o 60 mlynedd o wasanaeth ar y cyd cafodd y Rheolwr Gwylfa Aled Morgan a’r Diffoddwyr Tân Huw Rowcliffe a Glyn Jones wobrau gwasanaeth hir gan Gadlywydd yr Orsaf Danny Bartley.

Wrth gyflwyno’r gwobrau yn ystod noson ymarfer yr Orsaf, dywedodd Cadlywydd yr Orsaf Bartley:

“Hoffwn longyfarch Aled, Huw a Glyn ar eu cyflawniadau rhyfeddol, mae heno yn cynrychioli carreg filltir yn eu gyrfaoedd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Hoffwn ddiolch iddyn nhw i gyd am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i ddiogelwch eu cymuned leol.”

Roedd Aled Morgan (Mogs i lawer yn ardal Llanbed) yn ysu am fod yn ymladdwr tân ers yn fachgen ifanc pan cafodd y fraint o gwrdd â’r criw ar y pryd yn yr orsaf.

I gyrraedd ei rôl presenol bu’n rhaid sefyll arholiadau ysgrifennedig, mynychu cyrsiau hyfforddi, 18 mlynedd o waith caled, a dysgu wrth yr holl aelodau profiadol oedd wedi bod yn rhan o’r Frigad hefyd.

Y cyngor byddai Aled yn cynnig i unrhywun sy’n ystyried swydd o fewn y Frigâd Tân, yn ddynion a menywod, byddai

“Os chi ise helpu pobol, bod yn rhan o dîm ac os ydych yn mwynhau gwaith caled a’r profiad o ddefnyddio injan dân, ewch amadani.”

Dweud eich dweud