Ddydd Mawrth, 29 Hydref, bydd yr awdur a’r myfyriwr doethurol, Olatunji Offeyi (Tunji), yn archwilio ysgrifennu creadigol a threftadaeth mewn digwyddiad a gynhelir ar gampws y Brifysgol yn Llambed ac ar-lein.
Mae’r gweithdy Treftadaeth Ysgrifennu yn un o’r digwyddiadau a gynhelir gan Undeb Myfyrwyr PCYDDS i ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon.
Rhobyn Grant, Llywydd Campws Llambed, sy’n arwain gweithgareddau Mis Hanes Pobl Dduon yn Undeb Myfyrwyr PCYDDS. Y thema eleni yw Adennill Naratifau, sy’n ymwneud â chymryd rheolaeth o’r straeon sydd bwysicaf a dathlu’r lleisiau sy’n haeddu cael eu clywed.
Dywedodd Rhobyn: “Fe wnaethom hwyluso’r digwyddiad hwn i roi lle i fyfyrwyr archwilio eu treftadaeth eu hunain trwy ysgrifennu. Roeddwn yn bersonol gyffrous i gysylltu â Tunji a’i gael ef i gyflwyno’r gweithdy! Rwy’n meddwl bod ei waith yn graff ac yn ysbrydoledig ac rwy’n credu y gall ein myfyrwyr ddysgu llawer o’i brofiadau.”
Mae Tunji, awdur Heritage Narrative, yn newyddiadurwr o Nigeria a Phrydain, Cymrawd Byd-eang Salzburg, sydd yn ei flwyddyn olaf o raglen ddoethurol yn y Brifysgol. Yn ei lyfr, mae Tunji yn mynd â darllenwyr ar daith, gan gyflwyno straeon myfyrwyr amrywiol Y Drindod Dewi Sant i sut gall deall gwahanol ddiwylliannau ac eraill siapio persbectif ac agor meddyliau unigolion yn gadarnhaol.
Mae ymchwil doethurol Tunji bron â chael ei gyflwyno ac mae’n canolbwyntio ar Nollywood, treftadaeth Nigeria, ac adrodd straeon. Mae wedi gwasanaethu fel cynrychiolydd Undeb y Myfyrwyr ar Bwyllgor Ymchwil a Moeseg y Brifysgol ac roedd yn llwyddiannus wrth ennill cyllid drwy Wasanaeth Lles y Brifysgol i dreialu dull newydd o ymgysylltu a chyfranogiad myfyrwyr. Mae ei brosiect UWTSD Cares yn fenter adeiladu cymunedol sy’n ceisio cefnogi a chysylltu myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol ar draws y Brifysgol. Cafodd ei lyfr, Heritage Narrative, ei ysbrydoli gan ei brofiadau fel cydlynydd y prosiect.
Dywedodd Tunji Offeyi: “Ymunwch â ni am noson o sgwrs am fy llyfryn, Heritage Narrative, sy’n cyfleu harddwch treftadaeth diriaethol ac anniriaethol a sut mae’n cysylltu â gwella lles meddyliol. Mae’r llyfryn hwn yn mynd â ni ar daith sy’n efelychu’r enaid o le na wnaethon ni erioed ddychmygu.’
Roedd UWTSD Cares, a ariannwyd gan Gronfeydd Iechyd a Lles CCAUC (Medr bellach) yn rhan o brosiect cydgynhyrchu a oedd yn gwahodd myfyrwyr i weithio ochr yn ochr â Thîm Lles y Brifysgol i dreialu syniadau newydd, cael mewnwelediadau a chodi ymwybyddiaeth o faterion myfyrwyr yn seiliedig ar eu profiadau byw eu hunain. Yn gyfnewid am hynny cafodd myfyrwyr brofiadau proffesiynol gwerthfawr, cawsant eu talu am eu hamser a chawsant gefnogaeth reolaidd gan oruchwylwyr. Roedd Tunji yn un o wyth myfyriwr a ddatblygodd gynigion prosiect dros dymor yr Haf ac mae eu gwaith wedi cael ei ddefnyddio fel astudiaethau achos arfer da fel rhan o adolygiad Strategaeth Iechyd a Lles Myfyrwyr y Brifysgol.
Dywedodd Natalie Owens, Uwch Swyddog Prosiect Gwasanaethau Myfyrwyr: “Roedd syniadau’r prosiect a gawsom yn amrywiol ac roedd yr wyth myfyriwr o gefndiroedd amrywiol. Roedd yn amlwg bod gan brosiectau’r myfyrwyr un neu gyfuniad o dair prif thema o ran deall neu wella gwasanaethau myfyrwyr presennol, dathlu hunaniaeth a rhannu profiadau yn ogystal â nodi mannau cymdeithasol ar gyfer cysylltu ag eraill.
“Roedd hi’n amlwg o’r cyfarfod cyntaf un fod Tunji yn angerddol am y syniad yma. Mae’n gyffrous ac yn ysbrydoledig gweld ei fod wedi datblygu rhywbeth diriaethol i’w ddefnyddio yn y dyfodol; offeryn i ddod â phobl at ei gilydd, dathlu hunaniaeth, treftadaeth ac yn fwy eang dod â myfyrwyr ynghyd”.
Bydd Tunji yn trafod y prosiect a’i waith yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon – Ysgrifennu Treftadaeth i’w chynnal yn Ystafell Gyffredin y Myfyrwyr, Adeilad SU, Campws Llambed ac ar Teams ddydd Mawrth, 29 Hydref 2024, 17.30 – 19.00.
Archebwch drwy dudalen digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr.