Nags Head Llanbed ar gau oherwydd damwain ffordd

Yn dilyn damwain gas yn Nhemple Bar neithiwr bu’n rhaid cau’r dafarn

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Roedd tafarn y Nags Head yn Llanbed ar gau neithiwr, ac yn gynharach heddiw cyhoeddodd Lee Wells yr eglurhad canlynol:

“Fel y gwyddoch bu’n rhaid i ni gau ar fyr rybudd ddoe, roedd hyn oherwydd bod aelod o’r teulu mewn damwain car ddifrifol. Mae’r aelod o’r teulu yn ddiogel ac ar y ffordd i wella.

Hoffwn ddweud diolch enfawr yn gyntaf i’r holl wasanaethau brys a phawb a gynorthwyodd ar safle’r ddamwain yn ogystal â staff yr ysbyty.

Hefyd mae’r holl ddymuniadau da a chynigion o gymorth rydym wedi’u cael yn anghredadwy, ac mae’n dangos bod ysbryd cymunedol Llambed heb ei ail, a dyna pam rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i gynnig tafarn hyfryd i bobl hyfryd.

Am ryw bythefnos byddaf yn ymdrechu i agor ar yr amseroedd a hysbysebir ond byddwn yn cau am 10yh yn ystod yr wythnos ac 11yh ar y penwythnosau gan fy mod yn siŵr y byddwch i gyd yn deall bod angen i mi ganolbwyntio ar adferiad aelodau fy nheulu.

Diolch unwaith eto Lee.”