Cadarnhawyd toc ‘rol 5 prynhawn yma byddai Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig yn cael ei gynnal ar y 4ydd o Orffennaf. Cynhaliwyd yr etholiad diweddaf yn 2019 lle cafodd y Ceidwadwyr fuddugoliaeth o 368 o seddi i 191. Boris Johnson oedd yn mynd yn erbyn Jeremy Corbyn bryd hynny, ond Rishi Sunak fydd yn mynd benben â Keir Starmer i ennill seddi yn Nhŷ’r Cyffredin.
Yng Ngheredigion, Ben Lake enillodd yr etholiad diwethaf yma ond erbyn hyn, mae’r etholaeth wedi ei uno ag ardal Preseli i sefydlu etholaeth ‘Ceredigion Preseli’. Mae hyn yn rhan o’r newid i leihau’r nifer o seddi yng Nghymru o 40 i 32. Dyma’r ymgeiswyr sydd wedi cadarnhau eu bod yn sefyll yn yr etholiad:
- Tomos Barlow, Y Blaid Werdd
- Aled Thomas, Ceidwadwyr
- Ben Lake Plaid, Cymru
- Taghrid Al-Mawed, Plaid Gweithwyr Prydain
- Karl Pollard, Reform UK
- Jackie Jones, Llafur
- Mark Williams, Democratiaid Rhyddfrydol
“cyfle i Brydain ddewis ei dyfodol”
Yn ôl y polau piniwn, Llafur fydd yn fuddugol eleni ond yn rhan o’r datganiad gan Rishi Sunak, gwelwyd ymgais bellach ganddo i ddenu (neu gadw) etholwyr.