gan
Dylan Lewis
Mae’r ffordd rhwng Llanbed a Llanwnnen ar gau prynhawn ma oherwydd damwain ffordd gyda’r gwasanaethau brys ac Ambiwlans Awyr Cymru yn cynorthwyo.
Cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys,
“Mae’r ffordd ar gau ar hyn o bryd oherwydd damwain ffordd. Osgowch yr ardal a dewch o hyd i lwybr arall ar gyfer eich taith os gwelwch yn dda. Diolch.”
Yn ôl llygad dyst, mae’n ddamwain ddifrifol ar yr A475 ger Bank Hall, hynny yw, pen Llanbed o’r ffordd fawr rhwng Pentrebach a Llanbed. Gwelwyd hofrennydd yr Ambiwlans Awyr yn glanio mewn cae ger y ffordd fawr.
Gellir cyrraedd Garej Pentrebach o gyfeiriad Llanwnnen yn unig tra bod y ffordd ar gau.