NEWYDD DORRI – Pobl ifanc yn dringo sgaffaldau Neuadd y Dref yn Llanbed

Yr heddlu yn rhybuddio am y peryglon ac am ddifrod troseddol

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
D7CFA25E-5D6F-47EE-8C38-865159444F1E

Llun gan Martin Owen.

Mae swyddogion Heddlu Dyfed Powys yn Llanbed yn rhybuddio am beryglon dringo sgaffaldiau yn y dref.

Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae pobl ifanc wedi bod yn dringo’r sgaffaldiau ar neuadd y dref lle mae gwaith cynal a chadw ar dwr y cloc.

“Ni ddylai neb fod yn dringo unrhyw sgaffaldiau oherwydd y risgiau o gwympo a brifo. Bydd ein swyddogion yn patrolio’r ardal.”

Mae swyddogion yr heddlu hefyd yn cynghori y gallai unrhyw un sy’n ymyrryd â’r offer neu’r sgaffaldiau fod yn cyflawni trosedd o ddifrod troseddol.

Os y gwelwch unrhyw ymddygiad amheus neu bryderus, dywedwch wrth yr heddlu mewn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

https://orlo.uk/UVo3s
101@dyfed-powys.police.uk
neu ffonio 101.