Newyddion da i Ganolfan Deulu Llanybydder

Derbyn cymorth ariannol o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

gan Gwyneth Davies
419721676_10229023166138132
406468466_10228850820429597

Daeth y Flwyddyn Newydd â newyddion arbennig i Ganolfan Deulu Llanybydder a dderbyniodd £99,947 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd yr arian hwn yn sicrhau dyfodol y Ganolfan am y tair blynedd nesaf.

Defnyddir y grant i wella lles corfforol a meddyliol teuluoedd trwy barhau i weithredu’r gwasanaeth ‘galw heibio’, lle gall teuluoedd â phlant 0-11 oed gwrdd, cael paned, a mwynhau sesiynau hwyliog sy’n canolbwyntio ar eu cefnogi. Rhoddir sylw i bob maes o fywyd teuluol, o iaith a datblygiad cymdeithasol plant, cyllidebu cartref, ffyrdd iach o fyw a chyrsiau magu plant.

Mae’r Ganolfan Deulu hefyd yn awyddus i helpu teuluoedd i leddfu’r Argyfwng Costau Byw, ac yn ddiweddar maent wedi agor siop ar y safle lle gall teuluoedd gael dillad, teganau a chewynnau plant o ansawdd da, yn rhad ac am ddim.

Gan weithio’n agos gydag ysgolion lleol, mae’r Ganolfan Deulu hefyd yn bwriadu helpu plant i drosglwyddo’n haws i’r ysgol. Mae staff y Ganolfan wedi’u haddysgu’n dda ac yn brofiadol ym maes Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar, a gallant nodi, cefnogi a chyfeirio anghenion plant, cyn iddynt ddechrau addysg ffurfiol.

Dywedodd Kim Rees, Rheolwr y Ganolfan Deuluol, am y grant diweddar, “Ar ran y staff a’r Ymddiriedolwyr, hoffem ddiolch i’r Loteri Genedlaethol a’i chwaraewyr. Mae derbyn y grant yn golygu y gallwn barhau i gynnig gwasanaeth cyson o safon i’n teuluoedd niferus. Gall y pwysau sy’n wynebu teuluoedd fod yn amrywiol a chymhleth, ond rydym yn hynod falch ein bod yn mynd i allu parhau i gefnogi’r gymuned leol.”

Mae’r Ganolfan Deulu wedi ei lleoli yng Nghwm Aur ac wedi gwasanaethu’r ardal leol ers dros 20 mlynedd. Ar hyn o bryd mae tua 190 o deuluoedd, o Lanybydder a’r ardaloedd cyfagos, wedi’u cofrestru gyda nhw

Maent ar agor bedwar diwrnod yr wythnos, dydd Mawrth i ddydd Gwener, 9am – 3pm. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i deuluoedd, ac mae croeso i bob teulu. Nid oes angen atgyfeiriad, gallwch droi i fyny unrhyw bryd!

Caiff yr amserlen ei phostio ar frig tudalen Facebook, ‘Llanybydder Family Centre’, neu gallwch anfon e-bost at Kim Rees ar llanybydderfc2@gmail.com am fwy o wybodaeth.