Noson i’w chofio ar ben-blwydd Côr Cwmann yn 60 oed

Cyngerdd llwyddiannus iawn yn Neuadd Sant Iago

gan Dan ac Aerwen
4B6778C4-DC12-4F6A-AB88
FECFC159-33C1-44BE-BAD8

Aled Hall a Kees Huysmans

922935A2-723C-4401-A548

Disgyblion Ysgol Carreg Hirfaen

LLywyddionadj-cr-rot

Llywyddion y noson

Wel dyna beth oedd noson i’w chofio ac os oeddech chi ymhlith y gynulleidfa enfawr yn Neuadd Sant Iago ar nos Sadwrn, 16 Mawrth rwy’n meddwl y byddwch yn cytuno. Rwy’n siŵr fod pwyllgor ac aelodau’r côr yn falch iawn fod popeth wedi mynd mor dda.

Roedd y noson yn nwylo medrus Lena Jenkins. Mae ganddi gysylltiad agos â’r côr trwy ei thad Hefin a fuodd yn aelod selog o’r côr dros lawer o flynyddoedd. Cadwodd hi’r cyfan yn ysgafn gyda atgofion llawn hwyl.

Roedd y gyngerdd yn bwysig am ddau reswm. Yn gyntaf roedd yn dathlu’r ffaith fod y côr wedi cyrraedd 60 oed. Y reswm arall oedd fod Mrs Elonwy Davies yn arwain y côr am y tro olaf gan iddi benderfynu ymddeol o fod yr arweinydd am dros 35 o flynyddoedd.

Elonwy oedd dim ond y trydydd arweinydd oddi ar y cychwyn gan ddilyn Olifer Williams ac Elwyn Davies. Mae dyled y côr i Elonwy yn enfawr ac mae ein dymuniadau gorau diffuant yn mynd iddi ar ei hymddeoliad. Diolch Elonwy – gallwch edrych nôl â balchder ar eich gwaith dros gymaint o flynyddoedd. I ddathlu’r achlysur ysgrifennodd Gillian Jones englyn fel teyrnged i’w chyfarch.

Y mae hud y nodau mân – yn uno

Elonwy a’r gytgan,

Clywaf a gwelaf y gân,

Cyfoeth dwy law yw’r cyfan.

Gillian Jones 2024

Bu’r côr yn ffodus iawn i ddenu artistiaid o’r radd uchaf sef Gwawr Taylor, y delynores ddawnus, Aled Hall, y tenor byd-enwog a Kees Huysmans un o’n bois ni, a phlant Ysgol Carreg Hirfaen. Yn ystod y gyngerdd cyfrannodd
pob un ddarnau yn efelychu eu doniau. Roedd y cyfan yn bleserus iawn.

Dewisodd y côr ganu rhaglen amrywiol ac roedd y sŵn a grëwyd yn arbennig. Un o uchafbwyntiau’r noson oedd clywed plantos bach yr ysgol
yn canu gyda cymaint o hyder a phleser, a phob un ohonynt yn mwynhau y profiad. Anghofiaf byth gweld un o’r bechgyn ar ôl gorffen canu yn wafo at ei fam ac yn taflu cusan iddi. Enghraifft o rywbeth hollol naturiol.

Ar ddiwedd yr haner cyntaf ac yn ystod egwyl fer daeth Cyril Davies, un o gyn-gadeiryddion y côr i’r llwyfan i gyflwyno llywyddion y noson, sef Morfydd Slaymaker, Dilwen Roderick ac Elma Philips. Mae’r tair ohonynt a chysylltiadau agos â’r côr trwy eu gwŷr, Eric Slaymaker, Arthur Roderick a Goronwy Philips. Roedd Eric ac Arthur yn aelodau gwreiddiol, ac Arthur wedi bod yn gadeirydd am 30 o flynyddoedd. Roedd Cyril wedi siarad â’r tair ohonynt am eu hatgofion dros y blynyddoedd ac roedd yn amlwg fod y côr wedi bod yn bwysig iddynt. Ymhlith y gwahoddedigion roedd ein Aelod Seneddol Ben Lake a’i wraig, Is-Gadeirydd Cyngor Sir Gaerfyrddin Handel Davies a’i wraig, a Stephen Warner aelod o’r Adran Weithredol. Cysylltodd pob un a Meirion John, ysgrifennydd y côr, ac roedd yn amlwg eu bod wedi mwynhau’r gyngerdd yn fawr iawn.

Cyn bod y gyngerdd yn dod i ben, cyflwynwyd blodau ac anrhegion i’r artistiaid, i Elonwy Davies ac Elonwy Huysmans, i Lena ac i Lywyddion y noson. Wedi hynny, aeth yr holl artistiaid ar y llwyfan i ganu ‘Yma o Hyd’ gyda’i gilydd, a’n hanthem genedlaethol i gloi’r noson. Diweddglo arbennig. Bydd rhan o’r elw yn mynd at Prostrate Cymru.

Roedd lluniaeth ysgafn wedi ei baratoi gan Elfan James a Chwmni Mark Lane. Diolch iddynt ac i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd at lwyddiant y dathlu.

Yn yr ymarfer cyntaf ar ôl y gyngerdd, cafodd aelodau’r côr y cyfle i groesawu Sharon Long, ein arweinydd newydd yn swyddogol. Ar ddiwedd yr ymarfer, cawsom y teimlad ei bod wedi mwynhau’ profiad. Edrychwn ymlaen i’r dyfodol yn ei chwmni.