Dim Noson Siopa Hwyr yn Llanbed eleni

Costau cau’r ffordd a diffyg gwirfoddolwyr yn gorfodu trefniadau newydd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
B3882006-4A24-454E-871A

Noson Siopa Nadolig yn Llambed tair blynedd nôl. Llun gan y Stiwdio Brint.

IMG_2663

Ni chynhelir Noson Siopa Hwyr ar gyfer y Nadolig yn Llanbed eleni.  Mae wedi bod yn un o brif ddigwyddiadau Llanbed dros y blynyddoedd ac yn gyfle i wneud eich siopa Nadolig yn lleol tra bod siopau’r dref yn cadw eu drysau ar agor yn hwyr ar gyfer y digwyddiad.  Roedd hi wastad yn noson arbennig gydag awyrgylch hyfryd.

Mewn datganiad gan Gyngor Tref Llanbed dywedwyd,

“Bydd Marchnad Nadolig y Dref a’r Brifysgol yn y Brifysgol ar ddydd Sadwrn 23ain Tachwedd o 2-6yh ac yna troi goleuadau’r Goeden Nadolig ymlaen ar y sgwâr am 6.15yh. Bydd Siôn Corn yn Neuadd Fictoria o 2-5pm. Mae siopau’n ystyried aros ar agor yn hwyrach nag arfer. Byddai’n wych i weld aelodau’r gymuned yn cymryd rhan gan nad cost cau’r ffordd yn unig sy’n gyfrifol, mae hefyd oherwydd diffyg gwirfoddolwyr ar gyfer y digwyddiad.”

Ymatebodd Tina Morris,

“Trefnir y digwyddiad siopa hwyr gan Siambr Fasnach Llanbed. Cynhelir ein cyfarfod nesaf ar 21 Hydref. Cysylltwch ag unrhyw fusnesau a hoffai fynychu. Eleni rydym yn cynnal y digwyddiad gyda’r Brifysgol ar ddydd Sadwrn 23ain Tachwedd. Bydd Siôn Corn yn Neuadd Fictoria a bydd y corau lleol yn canu o gwmpas y dref.”

Bu tipyn o drafod yn lleol ac ar wefannau cymdeithasol bod hi’n drueni nad oes noson siopa hwyr yn digwydd eleni er mwyn cefnogi siopau lleol.  Rhai’n flin gyda Chyngor Sir Ceredigion am godi cymaint am gau’r Stryd Fawr ac eraill yn anfodlon na apeliwyd am wirfoddolwyr i helpu.

Y prif beth yw bod yna ddigwyddiad Nadolig, a diolch am hynny.  Does dim o’i le mewn arbrofi a bydd dal cyfle i bobl i siopa’n lleol.  Cofiwch am y digwyddiad a gwnewch pob ymdrech i siopa yn Llanbed a’r ardal.