On’d oedden nhw’n ddyddiau da?

Rhan olaf cyfweliad Danny Davies, Garej Gwalia, Llanybydder nôl ym 1994

gan Gwyneth Davies
Anrheg pen-blwydd gan ffrind

Mae’r bois sy’n rhedeg y ‘service buses’ yn haeddu medal. Seddi pren oedd gyda ni yn yr ‘Utility buses’ yma pan ddechreuais i.  Doedd yr ‘Utility buses’ ddim mor neis â’r bysys eraill. Un darn o ledr wedyn ble ro’ch chi’n eistedd. Roedd y bws newydd brynais i ym 1972 yn costio £9,300. Ces i wared ohono wedyn ym 1975 a ches ddau 45 seater ac ro’n nhw’n £15,500 yr un. Dyna faint oedd y ‘service buses’ wedi codi yn y blynyddoedd hynny. Erbyn nawr, maen nhw’n tua £59,000. Ro’n i wrth gwrs yn gallu defnyddio’r ‘utility buses’ yma fel ‘coaches’ achos roedd seddi digon neis ynddyn nhw. Roedd rhaid i chi ddefnyddio’r ‘utility buses’ fel ‘service buses’ neu fyddech chi ddim yn gallu cael grant i’w prynu. Roedd un o’r bysys brynon ni ym 1960 gyda ni tan y diwedd. 30 ‘seater’ oedd e ac roedd yn mynd gro’s y mynydd o Rydcymerau i Lambed bob dydd. Rhywun ar bwys Gloucester brynodd y bys oddi wrthon ni. Fe werthes i fws arall wedyn fel cartref  i  Michael Wilding Junior, un o feibion  Elizabeth Taylor. Buodd hwnnw’n actio ar y rhaglen ‘Dallas.’

Pan oedd ffeiriau yn Llanybydder, Llambed a Chastell Newydd, roedd saith bws gyda ni yn mynd mas am 11 y bore. Roedd pob bws yn llawn dop. Ond fel aeth y blynyddoedd yn eu blaen, doedd dim eisiau bws achos bod car gan bawb.  Wrth gwrs, yn y dyddiau cynnar, doedd y gwragedd ffermydd ddim yn gallu dreifo achos do’n nhw ddim yn berchen car. Ro’n nhw i gyd yn gorfod dod ar y bws wedyn. Roedd awyrgylch hapus iawn ar y bws yr adeg honno.

Bysys petrol oedd gyda fi lan i 1971/ 72. Yna newidiais i i fysys diesel. £2,50 y diwrnod ro’n i’n cael i gario plant ysgol pan ddes i lan yma gynta. Ces i ‘operators Dyfed’ i gyd i gyfarfod wedyn a threfnais i, James Llangeitho a Davies Bros ein bod ni’n cwrdd â nhw yn yr Highmead Arms er mwyn achwyn pa mor isel o’n ni’n cael ein talu. Llwyddon ni wedyn i gael pob un i roi mewn am ei gontract ei hun a chael pris teg. Ro’n ni sbel ‘mlaen na Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin wedyn tan i bawb wrth gwrs ymuno â ‘passing your vehicle, Dyfed’. Ar y 33 ‘seater’ ro’n i’n cael 9 milltir y galwyn ond 14 milltir y galwyn ro’n i’n cael ar y 29 ‘seater’. Bobl bach, dw i’n cofio prynu injans ex armies.  Ro’n i’n cael injan gyfan am £45. Injan loris o’n nhw ac fe fydden ni’n gallu eu rhoi yn y Bedford 29 ‘seater’. Ym 1972 brynes i’r bws newydd cynta ac fe gostiodd e £9,300. Ar y diwrnod cyntaf, daeth dwy fenyw o Gwrtnewydd ar y bws ac medden nhw wrtha i ‘ Mae digon o arian gyda chi os chi’n gallu prynu bws newydd.’ Dyma’r ateb roies i iddyn nhw ‘ Fi wedi bod yn gwerthu petrol am bymtheg mlynedd chi’n gwbod a dw i wedi cadw’r ‘green shield stamps’ i gyd. Dyna shwt dw i wedi gallu prynu bws newydd.’ Wel wel, fe gredon nhw bob gair! Y gwirionedd oedd ein bod yn cael grant bryd hynny i helpu i brynu bysys newydd.

Bob tro roedd eira, roedd rhiw Cwrtnewydd, rhiw Alltrodyn a rhiw Aberbanc yn beryglus ofnadw. Dw i’n cofio mynd â llond bws o fyfyrwyr o goleg Llambed i Gaerdydd pan oedd Iwerddon yn chwarae yn erbyn Cymru. Sawl blwyddyn nôl erbyn hyn. Roedd pawb ar stop yng Nghaerdydd achos yr eira. Newydd agor y ‘motorway’ o’n nhw ac felly gofynnes i i’r myfyrwyr pa ffordd fydde orau gyda nhw i fynd adre. Y ‘motorway’ enillodd! Bant â ni felly ond pan gyrhaeddais i Pyle, bu’n rhaid i fi hwpo ceir mas o ffordd. Chwarter i bedwar yn y bore gyrhaeddon ni nôl yn Llambed. Roedd y police wedi ffonio’r wraig erbyn hyn i ddweud bod dim un bws yn gallu gadael Caerdydd achos yr eira. Roedd y 45 seater oedd gyda fi yn iâ solid o’r ffenest lawr. Dim ond unwaith gyffyrddes i â’r clawdd ar y ffordd adre a hynny rhwng Llanllwni a Llambed a ches yr ail gasgliad gyda’r myfyrwyr achos bo fi wedi dod nôl â nhw’n ddiogel. Ro’n i’n trio sticio at y speed limit o 70 ar y ‘motorways’ ‘ma. Sai’n gweld y speed limit yn dod lawr i 50 gan mai dim ond ciws fydde gyda chi. Buodd y speed limit yn 50 pan agoron nhw’r ‘motorways’ ond doedd hynny ddim yn gweithio.

Sai’n teithio ar fysys eraill yn aml ond dales i’r bws TrawsCambria ar sgwâr Llanybydder beth amser yn ôl er mwyn cael mynd lawr i Gaerdydd ar gyfer International. Ro’n i’n cwrdd â’r ŵyr yno. Mae e’n 19 nawr ac roedd e’n dod i’r gêm gyda fi a’r wraig yn mynd i siopa.  Mae stori gen i hefyd am gwmni bysys arall. Dw i’n cofio gyrrwr bysys Slattery o Iwerddon yn ymddangos yn y cwrt yng Nghaerfyrddin. Cafodd ei ffeino 40 punt achos bod e’n mynd 40 milltir yr awr drwy Lammas Street. Gofynnwyd iddo ‘Now tell me Paddy, what gear were you in?’ ‘Donkey jacket and wellingtons,’ oedd yr ateb a roddwyd.

Ro’n i’n codi tua hanner awr wedi chwech bob bore pan o’n i wrth y bysys achos fi oedd yn gyfrifol am yr hyn oedd yn digwydd yn y garej wrth gwrs. Un bore wrth i fi droi un o’r batris bant, fe gyffyrddes â rhywbeth na ddylwn i ac fe chwythodd e’n ddarnau a ches ddolur reit lawr fy wyneb. Dydd Gwener 13eg oedd hi, dw i’n cofio’n iawn. I’r tŷ es i wedyn i olchi’r cwt achos doedd dim byd sbesial mlaen gyda fi gan mod i ddim yn gyrru’r bore hwnnw. Y peth nesa, dyma’r ffôn yn canu a chlywais fod bws wedi torri lawr yn Rhydcymerau. Bu’n rhaid i fi fynd yn syth felly. Canol Ionawr oedd hi ac roedd hi’n oer iawn. Dod nôl wedyn a mynd i’r feddygfa i gael chwech o bwythau. Mae ychydig o graith gyda fi o hyd ar ôl y ddamwain honno.

Er mwyn darllen mwy, mynnwch gopi Mis Mawrth o Bapur Bro Clonc.