On’d oedden nhw’n ddyddiau da?

Y diweddar Wil Davies, perchennog Llaethdy’r Dolau, yn rhoi ychydig o’i atgofion i’w wyres.

gan Gwyneth Davies
Wil-Davies

Wil Davies

Sut y dechreuodd y busnes llaeth?

Wel, tua 1935 fe ddechreuodd fy nhad fynd â llaeth o gwmpas Llanybydder, Tŷ Mawr a Phencarreg. Trap a phoni oedd gydag e. Bryd hynny, roedd y llaeth yn cael ei roi mewn ‘churns’ 18 galwn. Yna roedd e’n cael ei lenwi i ganiau dau alwyn. Roedd yna ddau fesur – peint a hanner peint. Ar ôl ychydig, fe ddechreuais i fynd â’r llaeth o gwmpas y tai.

Sut o’ch chi’n rhoi’r llaeth i’r cwsmer bryd hynny?

Bryd hynny, roedd pob cwsmer yn gadael jwg laeth ar stepen y drws ac wedyn ro’n i’n ei llenwi.

Beth oedd pris y llaeth?

Dwy geiniog oedd pris un peint o laeth. Ie wir… gallwn ddweud sawl stori am y jwg laeth yna. Ti’n gweld, doedd rhai cwsmeriaid ddim yn golchi’r jwg o un diwrnod i’r llall. Doedd dim sôn am ‘hygiene’ yr adeg honno. Fe fydde ambell gath wedyn yn gwneud ei busnes mewn rhai o’r jygiau hyd yn oed. Creda neu beidio ond ‘High speed Wil’ o’dd pobol yn fy ngalw i ac roedd hynny braidd yn eironig gan fy mod yn aros mewn sawl tŷ i gael cacen a chwpanaid o de. Weithiau cofia ro’n i’n cael mwy na phaned o de. Bydde gwydraid bach o win yn fy nisgwyl mewn ambell dŷ. Lwcus bo fi ddim yn gorfod dreifo glei.

Faint o amser o’ch chi’n treulio ar y rownd?

Ro’n i’n dechrau am hanner awr wedi wyth y bore ac yn gorffen tua 12:30.

O’dd eich tad yn eich talu am weithio iddo?

Oedd. £2 o’n i’n cael fy nhalu gan dad bob wythnos ac roedd e’n arian mawr bryd hynny.

Pryd y dechreuoch chi eich busnes eich hunan?

Ym 1958 y dechreuais i fy musnes fy hunan a hynny yn Stryd y Bont o dan yr enw ‘D.W Davies’. Yn ddiweddarach, fe newidiais yr enw i ‘D.W Davies and Sons.’

Ai trap a phoni oedd gyda chi o hyd?

Nage. Prynais fan Ford 10 a thalais £150 amdani. Yna, ces i un lori a fi oedd yn gyrru honno. Dau berson oedd yn gweithio i fi ar y dechrau ti’n gweld. Bryd hynny, ro’n i’n gwerthu’r llaeth mewn dau beint, un peint a hanner peint. Dyma’r adeg wrth gwrs y dechreuais drin y llaeth. Cyn dechrau fy musnes fy hunan, ro’n ni’n gwerthu’r llaeth heb ei drin.

Pryd adeiladoch chi’r ‘dairy’ newydd?

Ym 1962 adeiladon ni’r ‘dairy’ yma a dw i wrthi o hyd.

Er mwyn darllen mwy, mynnwch gopi Mis Hydref o Bapur Bro Clonc.

Dweud eich dweud