Dim lle parcio i Rieni a Phlentyn ym maes parcio Sainsbury’s

Trefn parcio newydd yng nghanol Llanbed wedi i’r cyngor ail darmacio

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae llawer o achwyn ymhlith trigolion lleol wedi i faes parcio’r Sainsbury’s gael ei ail darmacio.  Does dim lle parcio penodol i rieni a phlentyn yno bellach.

Mae’r ffaith bod y maes parcio wedi ei ail darmacio i’w groesawu wrthgwrs.  Roedd cyflwr y maes parcio wedi mynd yn wael iawn cyn hynny.

Ond lle’r oedd tri lle parcio penodol i rieni a phlentyn, does dim un yno wedi iddyn nhw osod tarmac newydd ac ail baentio’r llefydd parcio.

Mae cael lle i rieni a phlentyn i barcio yn bwysig.  Cafwyd un sylwad fel hyn ar facebook,

“Weithiau doedd dim lle parcio i rieni a phlant ar gael felly dwi wedi parcio mewn man arferol yn Sainsburys.  Wrth ddod mas roedd rhywun wedi parcio modfeddi i ffwrdd o’r drws wedi fy rhwystro rhag cael sedd car fy mabi yn ôl i mewn!”

Mae sawl lle penodol ar gyfer deiliaid bathodyn glas yno diolch byth, ond y pryder yw bod gwaredu llefydd parcio i rieni a phlentyn yn rhwystr arall i siopwyr ac yn mynd i leihau nifer o bobl rhag siopa yn Llanbed.

Gofynnwyd i’r Cynghorydd Ann Bowen Morgan am wybodaeth,

“Yn ôl pob tebyg Sainsbury’s oedd wedi rhoi mannau parcio penodol i Rieni a Phlant ac nid ydynt yn y cynllun gan y Cyngor Sir. Does dim lleoedd parcio rhieni a phlant ar feysydd parcio’r cyngor sir. Maes parcio’r cyngor yw e er fod Sainsbury’s yn ad-dalu siopwyr.
Mae swyddogion y cyngor wedi nodi’r sylw!”