Mae Pwyllgor Gŵyl Dewi Llanbed yn edrych ymlaen at eich gweld yn ein Parêd Gŵyl Dewi. Bydd yn cychwyn am 11.00 o’r gloch y bore o Ysgol Bro Pedr (yr ysgol hŷn). Arweinir y Parêd eleni gan ein harweinydd gwadd, Mr Rob Phillips a’i deulu, Y Gwir Anrhydeddus Ben Lake Aelod Seneddol, y Maer a’r Faeres Y Cynghorydd Rhys Bebb a Shân Jones ac aelodau eraill Cyngor Tref Llanbed. Bydd Prif Swyddogion Ysgol Bro Pedr hefyd yn dywyswyr a bydd nifer o ysgolion yr ardal, Côr Meibion Cwmann a’r Cylch, Côr Corisma, capeli ag eglwysi a chymdeithasau Ileol yn cymryd rhan yn y Parêd.
Bydd strydoedd Llanbed yn fôr o liw coch, gwyn a gwyrdd a’r plant yn gwisgo’u gwisgoedd Cymreig a degau o faneri yn cyhwfan yn y gwynt. Gobeithio ceir diwrnod braf ar gyfer yr orymdaith o Ysgol Bro Pedr at Hafan Deg ac ar hyd y Stryd Fawr a Stryd y Coleg i Gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Bydd yr orymdaith yn dod i ben yn Neuadd y Celfyddydau ple dethlir Gŵyl Dewi gydag eitemau gan Gôr Corisma, Siani Sionc yn difyrru’r plant, disgyblion Ysgol Bro Pedr, Côr Meibion Cwmann a’r Cylch a’r dathliadau’n dod i ben gyda chanu cynulleidfaol.
Bydd cyfarchion gan y Maer, Ben Lake AS a Rob Phillips a chyfle i gefnogi’r raffl (arian parod) a mwynhau paned a phice ar y maen. Diolch i Cered (Menter Iaith Ceredigion), Cyngor Tref Llanbed, Cyngor Sir Ceredigion a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am eu cefnogaeth a’u nawdd. Cyhoeddir enillwyr y cystadlaethau gwaith cartref ar gyfer y plant ac mae gwaith yr enillwyr eisoes yn cael eu harddangos yn ffenestri rhai o siopau’r dref. Diolch yn fawr i Mrs Llinos Jones, arweinydd gwadd Parêd Gwŷl Dewi 2023 am ariannu gwobrau’r gystadleuaeth hon eleni. Cyhoeddir hefyd enillwyr cystadleuaeth addurno ffenestri siopau’r dref gan ddiolch yn fawr i’r Maer a’r Faeres am ariannu gwobrau’r enillwyr. Ceir ar ddeall y cafwyd tipyn o drafodaeth prynhawn Iau 29ain Chwefror ymysg beirniaid y gystadleuaeth sef y Maer, Ms Heulwen Beattie (Cadeirydd y Siambr Fasnach) a Mr Julian Evans (yn cynrychioli’r Town Hall Deli, enillydd 2023) yn dewis yr enillwyr!
Cofiwch bydd y dathliadau yn parhau nos Sadwrn mewn Twmpath Dawns a gynhelir yn Neuadd Fictoria am 7.30 o’r gloch. Diolch yn fawr iawn i aelodau Pwyllgor Parêd Gŵyl Dewi tan arweiniad Y Cynghorydd Ann Bowen Morgan (Cadeirydd), Ms Manon Haf Richards (Ysgrifennydd) a Mr Tim Boyle (Trysorydd) am yr holl waith a’r brwdfrydedd yn trefnu’r digwyddiad eto eleni. Diolch o galon am gymorth y rhai fydd yn stiwardio ac i Mr Emyr Lake am gydlynu’r trefniadau stiwardio.
Dewch i Lanbed dydd Sadwrn 2ail Mawrth i fwynhau dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.