Blwyddyn gyffrous arall i Fro Pedr a gwelwyd cynlluniau unigryw yn cael eu gweithredu megis Lansio Radio Bro Pedr a chynhaliwyd llu o ddigwyddiadau o bigion Eisteddfod yr Urdd i’r gwasanaeth Nadolig!
Mae wedi bod yn flwyddyn brysur i ni fel Prif Swyddogion a fu’n ganolog i’r gweithgaredd o fewn yr ysgol dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae cyfweliad yn edrych nôl ar y flwyddyn ar gael ar Spotify Radio Bro Pedr.
Tro criw brwdfrydig newydd yw hi nawr i arwain yr ysgol a bu’r Prif Swyddogion newydd yn siarad â Clonc360 yn fuan ar ôl cael eu penodi.
Y Prif Swyddog cyntaf yw Beca Lewis a ddaw o bentref tawel Lledrod lle mae’n aelod gweithgar o G.Ff.I. Lledrod. Mae Beca wrth ei bodd yn Stiwdio Radio Bro Pedr yn creu, cyflwyno a golygu rhaglenni. Fel un o Brif Swyddogion Ysgol Bro Pedr, gobaith Beca yw i barhau ac i ddatblygu darpariaeth Radio Bro Pedr dros y flwyddyn nesaf.
Mae Beca yn awyddus i gryfhau’r cysylltiad rhwng y campws Cynradd ac Uwchradd wrth gynnal gweithgareddau chwaraeon, coginio er mwyn rhoi cyfleoedd i bawb gymysgu a datblygu perthnasau yn yr ysgol.
Mae hefyd am barhau i ddefnyddio cyfrif Instagram 6ed Bro Pedr i hyrwyddo gweithgaredd sydd yn mynd ymlaen yn y chweched ym Mro Pedr.
“ddiolchgar am y cyfle i fod yn Brif Swyddog ac yn barod am yn gwaith caled sydd o’m mlaen i.”
Yn ymuno â hi mae Elen Morgan sydd yn wirfoddolwraig cysgon gyda Phapur Bro Clonc wrth blygu’r papur yn fisol. Mynycha Elen C.Ff.I. Llanwenog ac mae’n hoff iawn o drin geiriau wrth iddi ychwanegu at ei chasgliad o gadeiriau yn flynyddol.
“anrhydedd i gael bod yn brif swyddog”
Bu Elen yn ddisgybl yn yr ysgol ers blwyddyn 7 ac wrth siarad â Clonc360, dywedodd mai un o’i uchafbwyntiau oedd bod yn rhan o Gôr Gwerin Buddugol Ysgol Bro Pedr yn Eisteddfod yr Urdd 2023.
Dywedodd ei bod yn falch hefyd o fod yn rhan o sioe Grease yr ysgol yn 2022 ac yn rhan o dîm egniol Radio Bro Pedr. Elen yw Llysgennad C.Ff.I. Ceredigion i Ysgol Bro Pedr ac felly yn cyfrannu’n gyson i Llais Pedr.
Fel Beca, mae Elen yn awyddus i ddatblygu Radio Bro Pedr fel ‘adnodd cymunedol’. Mae hefyd yn barod i gynnal ’take-overs’ Prif Swyddogion ar Instagram ac am gydweithio â Phrif Swyddogion eraill ysgolion Ceredigion.
“Disgwyl ymlaen am flwyddyn o gydweithio fel un tim, cynrychioli a hyrwyddo ein hysgol, yn ogystal â dathlu llwyddiannau ein disgylion.”
Ymunodd Erin Morgan â chweched Bro Pedr o Ysgol Bro Myrddin flwyddyn yn ôl ac mae ganddi llu o ddiddordebau gan gynnwys perfformio, canu, athletau a dawnsio- mae’n ddisgybl prysur iawn tu allan i furiau’r ysgol ond mae hefyd wedi bod yn tu hwnt o weithgar yn yr ysgol gan iddi fod yn rhan o griw Cymreictod yr ysgol ac yn gyflwynydd ar Radio Bro Pedr.
“fraint cael rhoi yn ôl i’r gymuned sydd wedi bod mor groesawgar”
Mae Erin Morgan am weld yr ysgol yn ymgrymryd â mwy o ddigwyddiadau trwy gydol oedran yr Ysgol – o 3 i 19 oed. Soniodd y byddai’n awyddus i weld digwyddiadau elusennol a dathliadau o holl ddiwylliannau’r ysgol.
Dywed Erin ei bod am weld yr ysgol yn tyfu fel ysgol cynhwysol i sicrhau bod pob disgybl yn cael ei glywed ac â’r gallu i lwyddo.
“yn gyffrous iawn am y cyfleoedd i gyfrannu at gymuned Ysgol Bro Pedr ac yn ymroddedig i weld yr ysgol yn mynd o nerth i nerth.”
Yn cloi’r pedwarawd brwdfrydig mae Harri Evans a ddaw o Llangeitho ac felly bu’n ddisgybl gweithgar yn Ysgol Henry Richard cyn ymuno â blwyddyn 12 Bro Pedr llynedd.
“Rwy’n Gymro i’r Carn”
Gobaith Harri yw sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn ‘parhau i fod yn fyw yng nghymuned yr ysgol’. Dywed mai un o’i ‘brif weledigaethau yn yr ysgol yw sicrhau fod llais y disgybl yn parhau i gael ei glywed’.
Bu Harri yn gynrychiolydd fforwm Blynyddoedd 10-13 Ysgol Bro Pedr ar Senedd Bro Pedr ac yn cynrychioli’r ysgol ar Gyngor Ieuenctid Cyngor Sir Ceredigion.
“aelod gweithgar o’r cymunedau lleol, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol”
Daw dawn gerddorol Harri yn fyw wrth gyfeilio neu ar lwyfannau eisteddfodau. Bu’n dysgu ei hun i ganu’r piano ers tua 4 mlynedd.
“Rwy’n edrych ymlaen ar gyfer y dyfodol yn Ysgol Bro Pedr ac yn awyddus i ddod â’m gweledigaethau, fel Prif Swyddog, yn fyw.”
Yn ymuno â’r 4 Prif Swyddog mae yna dîm o Ddirprwy-Brif Swyddogion sef:
Elan Jenkins, Megan Thomas, Llŷr Davies, Marged Jones, Teleri Evans, Ffion Morgan.
Yna, mae yna dîm o Swyddogion yn cefnogi’r Prif a’r Dirprwy – Brif Swyddogion:
Efan Thomas, Adele Rees, Cameron McCoan, Christie Boyle, Molly Burges, Rhun Jones.