Prifysgol Llanbed : Ymateb Cyngor Tref Llanbed

Cyngor Tref Llanbed yn ymateb i gynlluniau i adleoli cyrsiau o Lanbed i Gaerfyrddin.

gan Ifan Meredith
4c827607-35a2-4552-8386-7e8ab316c55e

Canolfan Celfyddydau PCYDDS, Llanbed.

Mae’r pryderon dros ddyfodol sefydliad hynaf addysg bellach Cymru yn parhau a’r diweddaraf i ddarparu ymateb yw Cyngor Tref Llanbed.

“bu’r Cyngor tref mewn trafodaeth gydag Uwch reolwyr y Brifysgol”

Mewn datganiad, dywedodd y cyngor eu bod mewn trafodaethau “yn dilyn newyddion a dorrodd ddechrau’r wythnos diwethaf am y cynnig gan PCYDDS i symud yr adran Ddyneiddiaeth o gampws Llanbed i Gaerfyrddin”.

“Ar hyn o bryd rydym wedi derbyn yr un wybodaeth â’r Staff a myfyrwyr. Bydd ein sgwrs yn parhau dros yr wythnosau nesaf. Byddwn yn rhoi datganiad arall pan fydd mwy o wybodaeth ar gael i ni”.

Mae nifer o ymgyrchoedd wedi cychwyn yn dilyn y cyhoeddiad o’r diffyg o £11m sydd gan y Brifysgol wythnos diwethaf gan gynnwys deiseb i achub addysg Israddedig yn Llanbed sydd wedi denu 3,824 o lofnodion.

Yn ogystal, mae “Pwyllgor Myfyrwyr i Achub Llanbed” wedi ei gyhoeddi gyda’r nod o gynnal ymchwil a lleisio pryderon y myfyrwyr.

Mae’r pryderon gan staff, myfyrwyr a’r gymuned leol bryderon mawr dros ddyfodol y campws yn Llanbed yn parhau tan gyhoeddiad manylach sydd i’w ddisgwyl ym mis Ionawr.

Dweud eich dweud