Pryderon dros ddyfodol chwaraeon ar gampws Prifysgol Llanbed

Effaith cynlluniau arfaethedig PCYDDS ar gyfleusterau chwaraeon Llanbed.

gan Ifan Meredith

Mae tîm Pêl-rwyd Llewod Llanbed wedi mynegi pryderon dros ddyfodol cyfleusterau chwaraeon Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbed.

Bu’n rhaid i’r tîm symud yno er mwyn ymarfer yn dilyn penderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i newid Canolfan Hamdden y dref i Ganolfan Lles. Mae pryderon y tîm bellach wedi troi at wasanaethau chwaraeon y brifysgol.

“mewn cyswllt â’r brifysgol i sicrhau bod y clwb yn cael diweddariadau am unrhyw benderfyniadau”

Mewn ymateb i gais y tîm, dywedodd PCYDDS eu bod yn sicr byddai’r gwasanaethau chwaraeon yn parhau i gael eu darparu ar y campws tan Haf 2025. Fel gweddill y brifysgol, bydd y dyfodol yn cael ei benderfynu ym mis Ionawr 2025, yn ôl y brifysgol.

“bûm yn brwydro’r cyngor sir dros leihau maint y Ganolfan Hamdden, mynegon ein pryderon dros ddyfodol y brifysgol a’i chyfleusterau sawl gwaith. Yn anffodus, doedd neb yn barod i glywed, a nawr rydym ym mle roeddwn i’n pryderu” meddai’r tîm.

“wynebu’r posibilrwydd o’r clwb gyda dau opsiwn yn unig i chwarae”

Dywedodd Llewod Llanbed eu bod yn wynebu teithio oleiaf 11 milltir i’r cyrtiau agosaf, neu gael eu gorfodi i chwarae tu allan drwy’r flwyddyn gan arwain at fwy o sesiynau yn cael eu canslo.

“gobeithiwn, nid yn unig er ein lles ni, gall Brifysgol Llanbed gael ei adfywio”

Dywedodd Llewod Llanbed eu bod yn gobeithio gweld y brifysgol yn dychwelyd i fod yn un “uchel ei barch, unigryw a mawreddog”.

Mae PCYDDS wedi cael cyfle i ymateb.

Dweud eich dweud