Rali Ceredigion : Cychwyn y cymalau

Kiwi yn camu i’r safle cyntaf yn gynnar ar ddiwedd y rasio nos Wener.

gan Ifan Meredith
IMG_1229

Hayden Paddon (Hyundai i20 N Rally2) yn profi’r car ar drac Bont.

IMG_1224

Osian Pryce (Ford Fiesta Rally2) yn profi’r car ar drac Bont.

Hayden Paddon a John Kennard, y criw o Seland Newydd yn cipio’r safle cyntaf gydag amser o 2:38.0 ar ddiwedd noson o rasio ar hyd tref Aberystwyth.

Mae’r cyffro wedi cychwyn wrth i’r cystadlu gychwyn yn Rali Ceredigon 2024. Mae dros 140 o geir yn gwibio ar ffyrdd Ceredigion, Powys a Sir Gâr dros y diwrnodau nesaf. Daw’r ceir yma o 14 o wledydd, pell ac agos. Mae tipyn o’r ceir yma yn dod i Garej yn ardal Clonc360, Garej Derwen sydd dan ofal criw rasio Melfyn Evans. Mae ei fab, Meirion Evans yn un o’r gyrrwyr yma sydd yn y 17eg safle ar hyn o bryd.

Mae Cymry arall y rali yn cynnwys Osian Pryce, James Williams, a thad y gyrrwr rali rhyngwladol, Elfyn Evans, Gwyndaf Evans.

Roedd y rasio heddiw yn dechrau yng Nghwmerfyn wrth i’r ceir gael eu gosod yn nhrefn y cyflymaf cyn i’r ceir ddychwelyd i Aberystwyth ar gyfer cymal llawn cyffro ar hyd y promenâd.

Wrth fynd mewn i’r cystadlu yfory, mae Hayden Paddon yn arwain 1.3 eiliad tu flaen Andrea Mabellini.

“y ffordd berffaith i gychwyn y rali”

Dywed Paddon ei fod yn “wych y weld cymaint o bobl ar ddiwrnod hyfryd.

“Wedi mwynhau’n fawr ac yn methu aros tan yfory. Mi fydd hi’n fore cynnar ond bore pia hi. Dyna fyddwn ni bore fory”

Dywedodd Mabellini sy’n ail fod cymalau ’fory yn “hir ac yn dasg wahanol felly dwi’n edrych ymlaen amdani”

Chris Ingram yw’r Prydeinwr uchaf yn y pedwerydd safle. Mae ef yn gyrru Toyota GR Yaris Rally2 ac yn rhan o dîm MEM (Melfyn Evans Motorsport) o Garej Derwen.

Man cychwyn Dydd Sadwrn fydd ym Mrechfa am 8:05 yb cyn i’r rali barhau ar gymal Llyn Brianne am 10:08 yb. Cymal olaf y bore fydd Nant y Moch am 11:33 yb cyn i’r ceir ddychwelyd i Aberystwyth ar gyfer gwasanaethu.

Nôl i Frechfa ar gyfer dechrau cymalau’r prynhawn wedyn am 2:21 yp. Cymal nesaf y prynhawn fydd Llyn Brianne i gychwyn am 3:54 yp ac yna Nant y Moch am 5:19 yp. Yna bydd y ceir yn dychwelyd i Aberystwyth ar gyfer dechrau’r trydedd cymal trwy’r dref am 6:04 yh ac i gloi’r dydd fydd y cymal olaf trwy Aberystywth am 6:24 yh.

Dewch nôl i weld beth fydd y stori nos fory cyn i gymalau Bethania a Hafod ddigwydd ddydd Sul i gloi Rali Ceredigion 2024.