Faint ohonoch chi wyliodd rhaglen Cefn Gwlad ar S4C nos Lun? Roedd yn raglen arbennig iawn yn dilyn John Dalton yn ffermio yng Ngelligarneddau, Llangybi a rhedeg busnes gwerthu cwods yn Nhalsarn.
Yn ogystal â hynny gwelwyd Ifan Jones Evans y cyflwynydd yn mentro mewn i gar rali John a dangoswyd aelodau eraill y teulu gan gynnwys Margaret Dalton ei fam wrth eu gwaith hefyd. Mor hyfryd hefyd oedd gweld Ffion Dalton ei wraig a’r pum plentyn yn rhan mor annatod o bob dim.
Mewn negeseuon ar facebook cytuna llawer nad oedd awr o raglen yn ddigon gan mor ddiddorol ac amrywiol oedd hi.
Dyn prysur yw John, ond roedd yn siarad yn naturiol a gonest a chafwyd y doniol a’r dwys ganddo.
Dywedodd Elin Jones AS,
“Newydd ddal lan gyda’r rhaglen yma. Am deulu anhygoel yw’r Daltons. Dwi’n nabod Mrs Dalton ers blynyddoedd a ma hi’n hero. Ond ma’r teulu’n dair cenhedlaeth o heroes. Rhaglen llawn emosiwn a hiwmor. Tonic o raglen. Da iawn chi i gyd. A da iawn Ifan am adael stori a chymeriadau’r teulu yma i lywio’r rhaglen.”
Gellir ailwylio’r rhaglen ar wefan S4C Clic. Diolch am gael y cyfle i werthfawrogi cyfraniad teulu unigryw’r Daltons i’r ardal leol.