Siop Flodau ac Oriel Cadi a Grace

Lle hyfryd i alw mewn yn Stryd Fawr Llanbed

gan Dan ac Aerwen
4248B8F9-FC02-4759-B14C
E44D7B67-5CF5-4222-BB87

Ydych chi’n gwybod bod oriel gelf yn llofft siop Cadi & Grace yn Stryd Fawr, Llanbed?

Dywedodd Gabriel Davies,

“Pan nes i symud Siop Cadi a Grace i 2 Stryd Fawr, Llanbed roeddwn yn gallu gweld y posibilrwydd o nid yn unig cael siop gwerthu blodau ffres, blodau sych a photiau prydferth a diddorol ond gallu gwneud defnydd hefyd o’r mezzanine hyfryd sydd yn yr adeilad yma. Dyma le y gallem gael oriel gelf- rhywbeth hyfryd i agor yn nhre Llanbed.

Erbyn hyn rydym wedi agor yr oriel gyda’r arddangosfa gyntaf yn dangos gwaith arlunydd lleol – Aerwen Griffiths. Gobeithio yn y dyfodol agos y bydd cyrsiau trefnu blodau ynglwm ac arlunio yn cael eu cynnal yma. Croeso cynnes i bawb i alw mewn.”

Dweud eich dweud