Creu sudd afal cymunedol yn Llanbed

Dewch â dau gwdyn o afalau ac un botel lân i Farchnad Llanbed ddydd Sadwrn

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
F69889F6-67BE-4D42-9B72
26BCFAB7-76FC-47A9-AADA

Oes afalau gennych o’r ardd, a ddim yn gwybod beth i wneud â nhw?  Dewch â nhw i ddigwyddiad unigryw ym marchnad Llanbed ddydd Sadwrn er mwyn gwneud sudd afal cymunedol.

Grŵp Paramaethu Llanbed, sy’n trefnu’r ddiwrnod ym Marchnad Llanbed. Sefydlwyd y grŵp yn 2000 a maent wedi trefnu neu gefnogi diwrnodau sudd afal ers blynyddoedd yn Llanbed. Y rhan fwyaf wedi digwydd yn Watson & Pratts yn rhan o’u Gwyliau Afalau, ond dydyn nhw ddim yn trefnu Gŵyl Afalau eleni.

Bydd y grŵp yn dod ag offer gwneud sudd, ac yn gwahodd pobl i ddod â chwdyn neu ddau o afalau ar gyfer gwneud sudd afal ar y cyd. Bydd rhaid golchi, torri, crafu a gwasgu’r afalau i wneud potel o sudd ffres a blasus.

Dywedodd Julia Lim o Grŵp Paramaethu Llanbed,

“Cyfrannau Teg yw moeseg paramaethu, a rydym yn cynnal y ddiwrnod fel cyfle i’r gymuned leol fwynhau a dathlu’r blas ac amrywiaeth o afalau yn yr ardal.”

Esboniodd Julia,

“Roedd eleni yn flwyddyn heriol i goed afalau.  Cafwyd Gwanwyn gwlyb a gwyntog felly roedd yn anodd iawn i beillwyr fel gwenyn, a doedd llawer o goed afalau ddim yn ffurfio ffrwythau o gwbl.

Diolch byth bod cynhaeaf afalau gyda rhai ohonon ni, a bydd rhai o’r grŵp yn dod â’u hafalau i ychwanegu at y sudd! Ro’n i wedi treulio prynhawn hyfryd dydd Sadwrn diwethaf, yn tynnu afalau yn yr hen berllan yn haul cynnes yr Hydref.

Bydd gwneud sudd afal yn weithgaredd perffaith i’r teulu.  Mae plant yn hoffi golchi’r afalau a thrio troi dolen yr offer.”

Mae Grŵp Paramaethu Llanbed yn ddiolchgar iawn am y cyfle i gynnal diwrnod o’r fath yn y brifysgol.

Dweud eich dweud