Teyrngedau wedi marwolaeth y Parchedig Goronwy Evans

“Mr Llanbed oedd e i fi.” Alwyn Jenkins y darlledwr.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Dyma grynodeb o rai teyrngedau a gyhoeddwyd ddoe wedi marwolaeth y Parchedig Goronwy Evans, Llanbed.

 

“Daeth ton o dristwch dros Frondeifi a Llanbed bore heddiw wrth i ni golli Goronwy, ein Gweinidog Anrhydeddus, a’n ffrind.  Daw cyfle i gofio ac anrhydeddu ei wasanaeth a’i gyfraniad amhrisiadwy, ond yn awr fe bwyswn ar ein gilydd mewn hiraeth, ac estyn ein cydymdeimlad dwysaf at Beti, Ioan-Wyn, Rhidian, a’r teulu i gyd.”

Ffrindiau a Chymuned Brondeifi.

 

“Coffadwriaeth am ffrind a un o hoelion wyth Llanbed a’r fro, Gwasanaethodd yr ardal am dros drigain mlynedd yn ddiflino. Bydd y golled i’r gymuned yn enfawr, ond yn fwy o lawer i’w deulu a oedd yn meddwl y byd iddo.”

Cerdin Price – Gwilym Price ei fab a’i ferched, Llanbed.

 

“Dim angen y cyfenw – roedden ni gyd yn gwybod pwy oedd Goronwy. Ysgogwr ac ysbrydoliaeth. Cymwynaswr, cyfathrebwr, codwr arian, cyfaill. Diolch am bob cyfraniad diflino yn ardal Llambed.”

Elin Williams, Cwmann – un o Lywyddion Anrhydeddus Eisteddfod Rhys Thomas James, Llanbed.

 

“Am golled i bawb . Wrth ein bodd yn gwrando arno’m pregethu a darllen ei lyfrau. Ein cydymdeimlad dwysaf gyda Mrs Evans a’r teulu. Diwrnod trist ofnadwy.”

Lynda Thomas, Pencarreg – cyn athrawes.

 

“Mae’r golled yn enfawr heddiw i’n cymuned. I fi roedd Mr. Evans – neu fel on i yn ei alw Gor- yn arwr!!! Fe roedd yn rhan anatod on plentynod a bu ym mhob digwyddiad teuluol yn gefen diflino. Mae ei gyfraniad i’r ardal wedi bod yn amhrisiadwy a rydym gymaint yn gyfoethog o’i achos.”

Rhian Davies, athrawes.

 

“Sioc a thristwch anferth. Ein cydymdeimlad dwysaf i Beti, Ioan Wyn, Rhydian a’u teuluoedd. Sut golled i Lanbed ac ardal gyfan – fydd Llanbed ddim yr un lle heb Goronwy.”

Aerwen Griffiths, Llanfair Clydogau – arlunydd.

 

“Wel, dyma chi newyddion trist iawn iawn. Bob cydymdeimlad gyda’r teulu. Mr Llanbed oedd e i fi. Meddwl am Beti a’r teulu.”

Alwyn Jenkins y darlledwr.

 

“Am newyddion trist ofnadwy heddi.  Mae Llanbed wedi colli un o’r goreuon…o ni’n bartners MAWR â Goronwy a meddwl am Beti, Ioan Wyn a Rhydian heddiw a danfon cydymdeimladau dwys atynt.  Fydd ‘na golled mawr ar ei ôl.”

Aled Hall, Pencader – y tenor.

 

“Newyddion trist – y cydymdeimlad mwyaf â’i deulu. Colled enbyd i’w briod a’i feibion wrth reswm, ond colled aruthrol hefyd i’w fro ac i’n cenedl. Cymwynaswr o’r radd flaenaf.”

Hefin Jones, Caerdydd – gwyddonydd.

 

“Colled enfawr i dre Llanbed. Un o gymeriadau mawr y dre a gyfranodd yn ddiflino at gynifer o achosion, gan gynnwys Plant mewn Angen. Yn meddwl am Beti, Ioan Wyn, Rhidian a’u teuluoedd.”

Dorian Morgan, Caerdydd – cyfieithydd.

 

“Dyn a wnaeth gymaint dros ei fro a’i gyd-ddyn, ac a fuodd yn gohebu hefyd i Radio Cymru, yn ogystal â bod yn Weinidog i’r Undodiaid. Colled fawr iawn.”

Aled Scourfield – newyddiadurwr.