Torra’r mop o wallt na bant

Moc Lewis o Gwmann sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau y mis hwn

f72b54ae-c60e-4835-bbd5

Morgan Lewis, neu Moc fel y’i adnabyddir gan lawer, sy’n ateb cwestiynau “Cadwyn y Cyfrinachau” yn rhifyn Hydref Papur Bro Clonc.

Mae e wrth ei fodd yn chwarae dros dîm rygbi cyntaf Llanbed ac ef sy’n rhedeg busnes y teulu, W D Lewis a’i fab ers colli ei ewythr llynedd.

Mae e’n dipyn o gymeriad, ac felly dyma flas i chi o’i ymatebion diddorol:

Unrhyw hoff atgof plentyndod:
Mynd i Anfield ‘da Wncwl Daf i weld Man U yn erbyn Lerpwl.

Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed?
Torra’r mop o wallt na bant.

Pan oeddet yn blentyn, beth oeddet eisiau bod ar ôl tyfu?
Dyn tân fel tadcu.

Beth oedd y peth ofnadwy wnest ti i gael row gan rywun?
Shafo gwallt fi off ar ‘tour’ yn Blackpool a gorfod dangos i mam.

Beth yw’r peth gorau am dy swydd bresennol?
Cael gweithio da teulu.

Beth yw’r peth gwaethaf am dy swydd bresennol?
Cael gweithio da teulu.

Y peth gorau am yr ardal hon?
Y Clwb Rygbi.

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?
Cost aelodaeth i’r clwb rygbi.

Beth sy’n codi ofn arnat?
Pris ‘fertiliser’.

Pryd llefaist ti ddiwethaf?
Yn ateb y cwestiynau ma.

Beth oedd yr eiliad balchaf i ti’n broffesiynol?
Qualifio fel AMTRA Animal Health Advisor.

Ac yn bersonol?
Ennill dyrchafiad i Div 2 da Clwb Rygbi Llambed.

Gallwch ddarllen yr atebion i gyd wrth brynu rhifyn cyfredol Papur Bro Clonc sydd ar werth yn y siopau lleol neu drwy danysgrifio’n ddigidol ar y we.

Dweud eich dweud