Lluniau gan Aneurin James
Cynhaliwyd ras hynaf Clwb Sarn Helen, Ras Fynydd Sarn Helen, unwaith eto ar y 19eg o Fai, o bosibl y ras aml-dirwedd galetaf o’i math a geir yn unrhyw le gyda’i dringfeydd a’i disgynfeydd serth ac ambell ddarn o arwynebedd twmpathog a chreigiog – ras anodd ei rhedeg sydd hefyd yn ddigon anodd ei threfnu, a thrwy fod Teifion Davies wedi camu i’r adwy fe’i cynhaliwyd hi eto eleni.
Cafwyd un o ddyddiau mwyaf heulog yr Haf, ychydig yn rhy wresog ar gyfer y cwrs 16.5 milltir heriol hwn a dim ond un lwyddodd i’w gwblhau dan ddwy awr y tro yma, Owain Schiavone o Glwb Athletau Aberystwyth (1:58:09) yn ennill y ras am y drydedd flwyddyn yn olynnol. Yn ras 1980 yr oedd 21 wedi llwyddo i orffen dan ddwy awr, sydd yn awgrymu gostyngiad yn safon y cystadlu cyfoes ond rhaid ystyried hefyd mai hon oedd un o’r ychydig rasys o’i math yng Nghymru yn 1980 ac erbyn hyn mae cymaint mwy. Jo Lloyd Davies (2:20:59) o glwb Dyffryn Aman oedd y fenyw gyntaf i orffen, rhyw ychydig o flaen Polly Summers (2:22:52) o glwb Sarn Helen – y ddwy yn gwneud yn arbennig i ddod yn 4ydd a 5ed yn y ras gyfan, y naill yn ennill y wobr 1af yn nosbarth y menywod dros 35 a’r llall yn ennill dosbarth y menywod dan 35. Daeth 43 i gystadlu, 21 ohonynt yn aelodau Sarn Helen. Yn ail yn y ras ac yn nosbarth y dynion dros 40 oedd Simon Hall (2:06:28) a dim syndod fod y profiadol Glyn Price (2:23:55) yn rhagori dros y cwrs yma wrth iddo ennill dosbarth y dynion dros 50 gyda’i gyd aelodau Nigel Davies (2:33:26) a Steven Holmes (2:34:10) yn ail a 3ydd. Yn glos y tu ôl iddynt yr oedd Matthew Walker (2:25:48) ddaeth yn 3ydd allan o’r dynion dan 40. Daeth gwobrau hefyd i aelodau eraill o’r clwb – Delyth Crimes (2:48:56) yn ennill dosbarth y menywod dros 55, Dee Jolly (2:38:09) yn ail yn nosbarth y menywod dros 35, Sara Davies (2:41:05) yn ail yn nosbarth y menywod dan 35, Lou Summers (£:03:17) yn ail yn nosbarth y menywod dros 55 a Pamela Carter yn 3ydd yn nosbarth y menywod dros 35.
Mae gobaith eto y bydd y ras hon ar hyd ddarn o’r hen heol Rufeinig yn dathlu hanner cant.