Wynebau lleol ar gystadleuaeth Cân i Gymru

Oes gennych chi hoff gân gan artist lleol ar gyfer nos Wener?

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cynhelir cystadleuaeth Cân i Gymru nos Wener, Mawrth 1af yn Abertawe a fe’i darlledir ar S4C.

Ond a wyddech chi am rai o’r cystadleuwyr a rhai o’r perfformwyr sydd â chysylltiadau lleol?

Mae Elin Hughes yn byw yng Nghwmann, ac yn dod o Lanybydder yn wreiddiol.  Hi sy’n perfformio “Heno” gan Elfed Morgan Morris a Carys Owen.  Caiff y gân hon ei chwarae ar raglenni Radio Cymru heddiw.

Dywedodd Elfed Morgan Morris,

“Dw i wir eisiau rhoi shout out anferth i Elin Hughes fydd yn perfformio’r gân.  Mae ganddi lais anhygoel a dw i methu aros i chi weld ei pherfformiad nos Wener yma y 1af o Fawrth!”

Mae Gwion Phillips yn dod o Aberystwyth ac yn fyfyriwr yng Nghaerdydd.  Ef yw ŵyr Elma Phillips o Gellan a’r diweddar Goronwy Phillips, cyn bennaeth Ysgol Coedmor a Llanybydder.

Mae Gwion wedi cyfansoddi cân wreiddiol sef “Cysgod Coed” gydag Efa Rowlands a bydd ef yn perfformio’r gân ei hunan yn fyw ar y rhaglen nos Wener.

Sara Davies, wedyn yw arweinydd Côr Pamlai yn Llanbed ac mae’n athrawes yn Ysgol Henry Richard.  Mae’n byw ym Mhren-gwyn erbyn hyn.  Defnyddia eiriau ei diweddar daid yn y gân “Ti”.  Sara a gyfansoddodd yr alaw ei hunan a hi fydd yn perfformio’n fyw yn y gystadleuaeth nos Wener.  Cafodd ei chân ei darlledu ar raglenni Radio Cymru ddydd Gwener.

Dyma restr lawn y caneuon:

Yr Un Fath gan Jacob Howells

Heno gan Elfed Morgan Morris a Carys Owen, Elin Hughes yn perfformio

Cysgod Coed gan Gwion Phillips ac Efa Rowlands, Gwion Phillips yn perfformio

Ti gan Sara Davies

Cymru yn y Cymylau gan Lowri Jones a Sion Emlyn Parry, Lowri Jones yn perfformio

Pethau yn Newid gan Sion Rickard

Mêl gan Owain Huw a Llewelyn Hopwood

Goleuni gan Steve Balsamo a Kirstie Roberts, Moli Edwards yn perfformio

Oes yna unrhyw gysylltiadau lleol gan unrhyw un arall o’r uchod?

Cynhelir Cân i Gymru yn Arena Abertawe gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno, fel rhan o Ŵyl Croeso Abertawe. Bydd perfformiadau byw gan HMS Morris, Bronwen Lewis, Mared Williams, a’r 8 cân derfynol.  Pwy fydd yn ennill y tlws a’r brif wobr o £5,000?

Bydd darllediad byw o’r gystadleuaeth ar S4C nos Wener am 8 o’r gloch.