Merch o Lanybydder yn serennu ar lwyfan y Genedlaethol

Y gantores Elin Hughes yn rhan o gast Na Nel! Achub y Byd yn Nhregaron.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
ADD2F0D7-95D8-4BA1-A3C4
A5367D92-D100-4026-8B55

Cast Na Nel!

3A8E60BA-0C53-4A4E-A0DC

Y cast yn cwrdd â’r awdures Meleri Wyn James.

Mae Elin Hughes o Lanybydder yn rhan o brif gast Sioe Na Nel! – Achub y Byd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni.

Esbonia Elin,

Dwi’n chwarae dwy ran yn y sioe, sef Mam Nel ac hefyd Mair Mwyn, ffrind gorau Nel. Dau gymeriad hollol wahanol!

Rydym yn gyfarwydd ag Elin fel cantores.  Cafodd gyfle i ganu yn Stadiwm y Principality yn yn 2017 fel rhan o gyngerdd mawr Coldplay ac yn ystod y cyfnod clo roedd Elin yn arwain sesiynau dawnsio ar y we gyda Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr.  Ond sut brofiad yw actio hefyd ar y lefel hon?  Dywed Elin,

Er mai canu dwi wedi gwneud fwyaf ers graddio, dwi hefyd yn actio. Yn ystod fy amser yn astudio yng Nghaerdydd a Llundain ces i fy hyfforddi mewn canu, actio a dawnsio. Dwi yn canu, dawnsio ag actio yn Na,Nel!. Mae’r cymeriadau a’r sioe gyfan mor llawn bywyd ac egni, felly rydym ni fel cast wedi cael gymaint o sbort wrth ymarfer. Mae hyn yn golygu bod lot o’r cymeriadu yn naturiol iawn gan ein bod ni fel actorion yn joio mas draw!

Sioe i blant yw hi, felly beth yw’r stori?  Eglura Elin,

Sioe i’r teulu cyfan ydy Na, Nel! yn y bôn. Mae’r stori yn seiliedig ar hynt a helynt Nel a’i ffrindiau wrth fynd i’r Eisteddfod. Trwy holl ddireiduia dychymyg Nel, mae pob math o bethau yn digwydd i’r criw ffrindiau. Mae hi’n sioe sydd am neud i chi wenu, ac yn codi calon. Mae yna gyfle i’r gynulleidfa gydganu a dawnsio gyda ni a mwynhau. Mae yna lot o gerddoriaeth poblogaidd yn y sioe felly mi fydd hi’n anodd peidio ymuno yn y sbri dwi’n meddwl!

Mewn ymarfer ym Mhontrhydfendigaid yr wythnos ddiwethaf, cafodd Elin a’r cast gwrdd ag awdures Na Nel! sef Meleri Wyn James o Aberystwyth.  Sut brofiad oedd hyn?

Roedd cwrdd â Meleri Wyn James yn fraint fawr i’r cast. Mae’n amlwg bod y llyfrau yn rhan fawr o’i bywyd hi a’i theulu. Wrth ddarllen y llyfrau, dydy hi ddim yn anodd gweld pam fod plant a theuluoedd yn dwlu arnynt cymaint. Mae’r straeon mor fywiog ac mae’r cymeriadau mor hoffus. Roedd clywed Meleri yn sôn am ein cymeriadau ni yn help fawr i ni fel actorion. Does neb yn nabod y cymeriadau yn well na hi, ac roedd hi’n fraint fawr cael portreadau Mam Nel a Mair Mwyn gan yr awdures ei hun.

Aelod arall o’r cast yw Meilyr Sion yn wreiddiol o ardal Aberaeron ond sydd bellach yn byw yn Y Barri.  Dywed Elin nad yw ei acen wedi newid dim.

Dyma ddisgrifiad o’r sioe ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol:

Byddwch yn barod am hwyl a direidi a llond y llwyfan o ddychymyg rhemp wrth i’r ferch sy’n gwrando dim lanio mewn trwbwl o’r dechrau’n deg sy’n ei harwain hi a’i ffrindiau ar antur amgylcheddol gyffrous / gythryblus i achub coeden hud o’r gorffennol a dyfodol Cymru gyfan.

Cafodd Elini ei magu ym mhentref Llanybydder gan fynychu’r ysgol gynradd yno, ac yna Ysgol Uwchradd Llanbed /Bro Pedr.  Symudodd i fyw yng Nghwmann yn y misoedd diwethaf ac mae pawb yn ardaloedd Clonc360 yn ymfalchïo yn ei llwyddiant.

Dymuniadau gorau i Elin yn yr wythnosau nesaf a phe hoffai unrhyw un archebu tocynnau i weld sioe Na Nel!, ewch i wefan yr Eisteddfod Genedlaethol.  Cynhelir y sioe yn y pafiliwn ar brynhawn Mawrth yr 2il o Awst am 5.30 o’r gloch.