Diolch yn fawr i’r Parchedigon Melanie Prince a Victoria Hackett ac aelodau eraill Eglwys San Pedr am eu croeso hyfryd yn Neuadd yr Eglwys fore Sadwrn 11 Mai. Darparwyd gwledd o gacennau cartref blasus a diognedd o baneidiau o goffi a thé i dorri syched ar fore braf a chynnes. Diolch i bawb wnaeth gefnogi a chyfrannu a sicrhau dechrau da i’r gweithgareddau drefnwyd gan Bwyllgor Cymorth Cristnogol Llanbed a’r Cylch ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol 2024.
Mae’r Wythnos eleni rhwng 11 a’r 18 Mai a dyma rhai o’r gweithgareddau eraill a gynhelir er budd Cymorth Cristnogol:
12 Mai: 10.30 y bore yn Eglwys Sant Tomos, Llanbed: Oedfa gyda chyfle wedi’r oedfa i gymdeithasu yn mwynhau paned a croissants gyda’r casgliad er budd Cymorth Cristnogol.
12 Mai: Taith Gerdded noddedig wedi ei threfnu gan Gapeli Undodiaid Aeron Teifi. Ceir ychwaneg o fanylion ar eu tudalen Facebook: www.facebook.com/UndodiaidAT/
13 Mai: 10.00-12.00 yng Nghanolfan Bentref Cwmann: Bore Coffi drefnir gan Eglwysi Plwyf Pencarreg a Chapel Bethel, Parc-y-rhos. Cynhelir raffl a bydd stondinau yn gwerthu cacennau, nwyddau a phlanhigion.
13 Mai: 5.30 y prynhawn Capel Bethel, Silian: Taith Gerdded noddedig hamddenol o tua 5 millitr drefnwyd gan Bedyddwyr Cylch Gogledd Teifi.
15 Mai: 7.30-11.30 y bore yn Festri Brondeifi : ‘Brecwast Mawr’ gyda raffl – trefnir gan aelodau a chyfeillion Capel Brondeifi.
Dosabrthwyd hefyd blychau casglu arian i Gymorth Cristnogol yn nifer o siopau a busnesau Llanbed a Llanybydder. Diolch yn fawr iawn i’r canlynol am arddangos blwch ym Mai yn cefnogi Cymorth Cristnogol: Adrian Thomas, Bargain Box, Becws, Chomp n’ Go, D. L. Williams, Garej Murco Pontfaen, Garej Shell Troedrhiw, Granny’s Kitchen, Joio, Lady Bug Siop Fwyd (yn Llanbed a Chaerfyrddin), Mark Lane, Mulberry Bush, Premier Siop y Gymuned a Siop y Bont, Llanybydder.
Dymuna Twynog Davies, Cadeirydd Pwyllgor Cymorth Cristnogol Llanbed a’r Cylch ddiolch i bob un sydd wedi trefnu cymaint o amrywiaeth o weithgareddau eleni. Mae’r diolch yn arbennig i bawb sy’n cefnogi Cymorth Cristnogol ac yn cyfrannu tuag at yr elusen deilwng hon. Dyma ddywedodd yn ddiweddar am bwysigrwydd Cymorth Cristnogol:
‘Yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol, gall pob un ohonom gynnig cymorth trwy ein rhoddion i’r cannoedd o brosiectau cymunedol sydd yn mynd i wella safon byw teuluoedd ar draws y byd. Bydd yr arian a gaiff ei gasglu eleni yn mynd at ymgyrch ryngwladol Cymorth Cristnogol ac yn canolbwyntio’n arbennig ar wlad Burundi, Affrica. Bydd ein rhoddion yn helpu pobl Burundi i gael y wybodaeth a’r sgiliau maent eu hangen i dyfu bwyd, prynu meddyginiaeth, rhoi addysg a gwella eu hamodau byw. Diolch yn fawr iawn am gefnogi gwaith elusennol Cymorth Cristnogol, gwaith mor bwysig ag erioed yn y cyfnod heriol yma lle mae gymaint o angen yn y byd.’