Ydych chi’n barod?

Dewch i Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan 23ain-26ain Awst, 2024

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Dyma’r arlwy yn Llanbed y penwythnos hwn.

  • Nos Wener 23ain, 7.30 o’r gloch, yng Nghlwb Rygbi Llanbed cynhelir Talwrn y Beirdd a’r Babell Lên eleni, dan ofal y Prifardd Mererid Hopwood a’r Prifardd Aneurin Karadog.
  • Dydd Sadwrn 24ain, 1.30 o’r gloch, yn Ysgol Bro Pedr agorir yr Eisteddfod gan y Cadeirydd newydd, Emlyn Davies, Llanybydder.
  • Bore Sul, 25ain, 10.30 o’r gloch, yng Nghapel Brondeifi, cynhelir Oedfa Undebol yr Eisteddfod yng ngofal Y Parchedig Wyn Thomas.
  • Nos Sul, 25ain, 6.00 o’r gloch, yn Ysgol Bro Pedr, cynhelir rownd derfynol Llais Llwyfan Llanbed tan arweiniad Rhiannon Lewis.
    Dyma ‘gyngerdd’ yr Eisteddfod gan edrych ymlaen at glywed rhaglenni’r cantorion Clara Greening, Caitlin Hockley, John Rhys Liddington ac Erin Gwyn Rossington. Y beirniaid yw Bethan Dudley Fryar a Rhys Meirion. Dyfernir hefyd yn Llais Llwyfan Llanbed enillydd cystadleuaeth Cyfansoddi Tôn i Emyn Buddugol 2023 gan Siw Jones.
  • Dydd Llun 26ain, 11.15 o’r gloch, yn Ysgol Bro Pedr,  y Cynghorydd Gabrielle Davies, Maer Llanbedr Pont Steffan sydd yn ein croesawu i’r Eisteddfod.

Llywyddion

Mae’r Eisteddfod yn edrych ymlaen at groesawu Llywyddion 2024 i’r llwyfan yn Ysgol Bro Pedr. Hedydd Thomas o Lanbed yw Llywydd dydd Sadwrn, gwyneb cyfarwydd yn y byd addysg a cherddorol yn Llanbed. Cantores ac athrawes hefyd yw’r Llywydd yn Llais Llwyfan Llanbed ar y nos Sul sef Carys Griffiths-Jones o Gwrtnewydd. Llongyfarchiadau iddi ar ei llwyddiant yng Ngŵyl Ban Geltaidd 2024 yn ennill yr Unawd Gwerin yn Carlow, Iwerddon. Enillydd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn y byd bowlio fydd y Llywydd ar y dydd Llun sef Anwen Butten o Cellan ger Llanbed.

Rhaglen

Os nad ydych eto wedi cael eich copi o Raglen yr Eisteddfod, cewch gopi yn nifer o siopau tref Llanbed. Ceir mynediad at gopi electronig ohoni ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru: https://steddfota.cymru/wp/testunau/

Noddwyr

Cewch hefyd yn y Rhaglen wybodaeth am noddwyr y gwobrau a’r busnesau sy’n hysbysebu a chefnogi’r Eisteddfod yn ariannol sy’n cynnwys Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr iddynt i gyd am eu cyfraniadau tuag at gynnal a chefnogi’r Eisteddfod. Cofiwn ninnau amdanynt hwythau wrth siopa a chefnogwn fusnesau lleol a charedigion yr Eisteddfod hon.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn yr Eisteddfod. Bydd yn braf cyfarfod i ddathlu ein diwylliant a chroesawu chi gyd i Lanbed y penwythnos hwn.