Teyrngedau yn dilyn marwolaeth bachgen 15 oed yn Llanbed

Disgyblion yn dod at ei gilydd i gofio a’r teulu yn talu teyrnged

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
a39b6e0b-a71f-430c-85ae

Balŵns yn cael eu rhyddhau ar brynhawn Llun i gofio ac er parch.

IMG_0850

Darparwyd y llun trwy garedigrwydd y teulu

IMG_0816

Taflen yn dangos y cymorth sydd ar gael i ddisgyblion Ysgol Bro Pedr.

Cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys bod teulu bachgen a fu farw yn anffodus brynhawn dydd Gwener, Mawrth 1af wedi talu teyrnged iddo.

Bu farw Callum Wright, 15 oed, mewn lleoliad yn ardal Llanbed.  Mae ei deulu wedi cyhoeddi datganiad i ddweud:

“Ddydd Gwener, Mawrth 1af, cymerodd ein Callum annwyl ei fywyd ei hun. Fel teulu, rydym wedi ein difrodi’n llwyr ac yn cael trafferth dygymod â byw mewn byd heb ein Callum.

Yn y dyddiau a ddilynodd, rydym wedi cael ein llethu gan y gefnogaeth a ddangoswyd i ni gan ein cymuned.

Roedden ni’n gwybod bod Callum yn unigolyn rhagorol a gofalgar, ond rydyn ni wedi cael ein cyffwrdd yn fawr gan y straeon a’r atgofion amdano a rannwyd gyda ni, gan ddangos yr effaith aruthrol y mae wedi cael ar fywydau pobl.

Yng ngeiriau doeth cefnder Callum ‘Os oes unrhyw un yn dioddef yn dawel, plis siaradwch. Mae yna lawer o bobl sy’n poeni amdanoch chi ac a oedd yn malio am Callum. Anghofiwch am y stigma, dylai bechgyn allu siarad â phobl a pheidio â chadw popeth iddyn nhw eu hunain.’”

Wythnos ddiwethaf, bu ffrindiau Callum a’i gyd ddisgyblion yn gollwng balŵns yn rydd er mwyn cofio amdano ac er parch iddo.

Ar ddiwrnod cyntaf o ysgol ar ôl ei farwolaeth, cyhoeddodd Ysgol Bro Pedr ddatganiad,

“Fel cymuned ysgol, rydym yn hynod drist o glywed y newyddion trasig dros y penwythnos. Hoffem ddatgan ein cydymdeimlad dwysaf â’r teulu ar yr adeg hynod anodd hon.

Bydd cefnogaeth yn cael ei ddarparu i’n disgyblion a’n staff dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf. Gweler yr atodiad sy’n rhoi gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael. Byddwn hefyd yn cyfarfod â’n holl ddisgyblion a staff.”