YSGOL CRIBYN – Canolfan gymunedol newydd i Gribyn, Dyffryn Aeron a Cheredigion

Dewch yn aelod o fenter gyffrous Cymdeithas Clotas, Cribyn

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_9514

Ysgol Cribyn – adnodd cymunedol gwerthfawr

IMG_9424

Y 5 Cam Datblygu all drawsnewid Ysgol Cribyn yn ganolfan gymunedol

IMG_9419

Y cynlluniau all drwasnewud Ysgol Cribyn yn ganolfan gymunedol ac yn dŷ fforddiadwy

IMG_9425

Yr ysafell ddosbarth sydd i’w datblygu’n neuadd gymunedol

IMG_9427

Yr ystafell ddosbarth sydd i’w datblygu’n lolfa a chegin y tŷ ddaw’n gartref fforddiadwy

Cynhaliwyd sawl cyfarfod cyhoeddus a digwyddiad yn ddiweddar yn Ysgol Cribyn i gyflwyno gwybodaeth a thrafod syniadau fydd yn datblygu Ysgol Cribyn yn ‘Adnodd newydd i Ddyffryn Aeron gyfan.’ Dyna fel y mae Euros Lewis, un o arweinyddion yr ymgyrch i ddiogelu Ysgol Cribyn a’i defnyddio er budd y gymuned yn ystyried y fenter. Cafwyd cyfle yn y cyfarfodydd i glywed am y weledigaeth a sut gellir cefnogi’r fenter yn aelodau ac yn fuddsoddwyr; gweld y cynlluniau fydd yn datblygu Ysgol Cribyn yn ganolfan gymunedol i gyfarfod, i gydymaddysgu a joio; a chael taith oddi amgylch adeiladau a thir yr ysgol.

Hanes Ysgol Cribyn

Agorodd ar y 23ain Ebrill, 1877 a Chymraeg oedd prif (os nad unig) iaith y plant er mai Saesneg oedd iaith yr addysg. Ychydig fisoedd yn unig y bu’r Ysgolfeistres gyntaf yn ei swydd gan nad oedd hi’n medru gair o Gymraeg. Gwellodd y sefyllfa’n sylweddol pan ddaeth William Barrow Griffith yn brifathro yn 1895. Dan ei arweiniad tyfodd nifer y disgyblion i dros 100 a bu raid ychwanegu stafell ddosbarth newydd at y ddwy wreiddiol. Yn ystod ei gyfnod ef y tyfodd gynta’r berthynas agos rhwng cynifer o’r prifathrawon a chymdogaeth Cribyn – perthynas a olygai nad rhywbeth i’w gyfyngu i amser a lle neilltuol oedd addysg. Gwelsant eu swydd yn Ysgol Cribyn yn sail ar gyfer ysgogi a chyfoethogi bywyd y gymdeithas gyfan. Er enghraifft, sefydlodd William Barrow Griffith gôr meibion yn y pentref a chasglodd Ffos Davies (1921-27) ganeuon gwerin yr ardal yn ogystal â ffurfio a chynnal Cwmni Drama Cribyn, fel y gwnaeth ei olynydd, D. T. Williams (1928-1957). Yr olaf o brifathrawon Cribyn i fyw yn Nhŷ’r Ysgol oedd Mr a Mrs W D Llewelyn a daeth llond capel ynghyd yn Nhroedyrhiw yn ddiweddar i gofio am Mr a Mrs Llewelyn. Fel yn achos ei ragflaenwyr, nid oedd ffiniau ar sêl addysgol W D Llewelyn. Yn ogystal â chwarae rhan flaenllaw yn sefydlu Adran ac Aelwyd yr Urdd yn y pentref a chyfrannu’n greadigol at gymaint o weithgareddau’r fro, cyflawnodd y gamp o lunio hanes y gymdogaeth a’i gyhoeddi dan y teitl ‘Crynodeb o Hanes Cribyn’ adeg dathlu canmlwyddiant yr ysgol yn 1977. Nodwedd arall arbennig cyfnod Mr Llewelyn oedd ei hoffter o gynnal cynifer o’i wersi tu allan yn yr awyr agored. Yr ‘ystafell ddosbarth’ hon wnaeth ddysgu a dylanwadu ar ei ddisgyblion i barchu cyfoeth byd natur a’r amgylchedd a hefyd eu treftadaeth, hanes, iaith a diwylliant. Pan gaewyd yr ysgol yn 2009, ffurfiwyd Cymdeithas Clotas gyda’r nôd o gynnal y weledigaeth bod yr ysgol yn parhau’n ganolfan gymunedol i’r gymdogaeth gyfan.

Pum Cam Datblygu Ysgol Cribyn

Cam 1: Sefydlu Cymdeithas Fudd Cymunedol Ysgol Cribyn Cyf.

Wrth sefydlu cwmni cydweithredol, bydd cyfle i brynu cyfranddaliadau a thrwy hynny dod yn gydberchnogion ar Ysgol Cribyn. Yn wahanol i gwmni preifat – cwmni dan berchnogaeth criw bach dethol yn unig – mi fydd pob un sy’n buddsoddi’n berchen ar y cwmni hwn ac yn elwa ohono.

Cam 2: Ennill Cefnogaeth y Loteri ac ati

Os llwyddir i godi swm da wrth sefydlu Cymdeithas Ysgol Cribyn Cyf. i brynu Ysgol Cribyn, gellir datgan wrth y rhai sy’n rheoli’r arian cyhoeddus megis y Loteri, Llywodraethau Cymru a Gwledydd Prydain fod yna gefnogaeth gref i brosiect yr ysgol yng Nghribyn, Dyffryn Aeron a Cheredigion. Bydd derbyn eu cefnogaeth yn allweddol er mwyn bod gyda’r arian angenrheidiol ar ôl prynu’r ysgol i addasu’r adeilad i’w gwneud yn ganolfan ddeniadol a defnyddiol.

Cam 3: Prynu’r Ysgol

Cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion nad yw’n fwriad ganddynt ddefnyddio’r ysgol yn y dyfodol. Cyhoeddodd Cymdeithas Clotas, ar ran cymdogaeth Cribyn, y bwriad i brynu’r ysgol yn ased gwerthfawr ar gyfer y gymdeithas gyfan yng Nghribyn a thu hwnt. Yn ei thro, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau eu bod yn awyddus i weld yr ysgol yn cael ei brynu a’i datblygu gan y pentref. O sefydlu Cymdeithas Ysgol Cribyn Cyf., rhoddir sail gyfreithiol i’r amcan bod y gymdeithas yn dod yn gydberchnogion yr ysgol. Golyga y daw’r ysgol yn ased i’r gymdeithas gyfan ac na fydd modd i’r ysgol fod o fudd i neb heblaw’r gymdeithas gyfan.

Cam 4: Adfer ac Addasu’r Ysgol

Rhan o nôd y cynllun yw addasu rhan o’r ysgol a fu gynt yn Dŷ’r Ysgol (cartref blaenorol Mr a Mrs Llewelyn) yn ôl yn dŷ deulawr. Y bwriad yw cynorthwyo teulu ifanc lleol i gael cartref fforddiadwy. Bydd y datblygiad hwn yn cyfrannu at incwm y safle oherwydd bydd rhent y tŷ yn cyfrannu tuag at gostau cynnal a chadw’r prif adeilad. Dyna’r rhan o’r adeilad a ddatblygir yn neuadd gymunedol hyblyg a sylweddol ei maint a rhagwelir y bydd cymdeithasau a mudiadau o bob math yn awyddus i ddefnyddio’r cyfleusterau newydd.

Cam 5: Ail-agor Ysgol Cribyn!

Mae gwireddu Cam 5 yn ein dwylo ni! Er mwyn cyrraedd y nôd hwnnw mi fydd raid i Gymdeithas Ysgol Cribyn Cyf. godi £175,000 i brynu’r adeilad. Dywedodd Euros Lewis ‘Os na ddown ni i ben a chodi’r arian erbyn mis Gorffennaf mi fydd hawl gan Gyngor Sir Ceredigion roi’r ysgol ar y farchnad agored. Ac rydym ni gyd yn gwybod beth fydd yn digwydd wedyn!’ Collir y cyfle i ddatblygu’r ysgol yn ganolfan hwylus, hyblyg, deniadol a chroesawgar a’r lle delfrydol i’r gymdeithas gydweithio, i gyfarfod, i gydymaddysgu a joio!

Un o gefnogwyr brwd y fenter yw un o’r plant olaf i gael addysg yn Ysgol Cribyn sef y bardd, Ianto Jones. Aeth 15 mlynedd heibio ers cau’r ysgol gan ddiolch yn fawr i Ianto Frongelyn am gyfansoddi cywydd mor arbennig yn cefnogi’r ymgyrch bod Ysgol Cribyn yn dod unwaith eto yn ganolbwynt cymunedol.

YSGOL CRIBYN

I bawb yr oedd un lle bach

unwaith yn llawn cyfrinach;

yng Nghribyn, roedd hyn o hwyl

yn unol â’i byw annwyl;

hwyl o hyd i’w halaw hi,

a’i geiriau yn rhagori;

nes i’r oes ei herio hi

a dwyn hen glo amdani.

Heddiw y mae gwahoddiad

i fynnu oes o fwynhad

i’r ysgol hon; cawn gronni

hyn o rodd i’w hagor hi,

rhoi yn ôl am aur ein hiau,

a rhoi i’n hen foreau.

Yn sŵn yr oes bresennol

fe fydd llawenydd yn ôl.

(Ianto Jones)

Os am glywed y cywydd yn cael ei hadrodd ar ffilm, dyma’r ddolen:

https://www.facebook.com/share/v/iJvhVuNsUGAcQpt1/?mibextid=WC7FNe

Am ychwaneg o wybodaeth am Ymgyrch Ysgol Cribyn, y cyfle i brynu cyfranddaliadau yn y gyd-fenter ynghyd â ffurflen gais, ewch i’w gwefan https://ysgolcribyn.cymru/cy/ a chysylltwch trwy e-bost gydag Euros Lewis ac Elliw Dafydd (Swyddog Datblygu): ysgolcribyn@gmail.com