Nôl i’r ysgol… 70 mlynedd wedyn!

Aduniad hwylus i ddosbarth Ysgol Llanbed 1954.

gan Ifan Meredith
IMG_1503

Mae’n 70 mlynedd ers i ddosbarth 1954 ymuno ag Ysgol Uwchradd Llanbed. Ar y 7fed o Fedi, daeth y criw o bell ac agos at ei gilydd unwaith eto i wledda a hel atgofion.

Cychwyn y diwrnod oedd taith o gwmpas yr ysgol a chafwyd nifer o straeon ac atgofion o gyfnod y cyn-ddisgyblion yn yr ysgol.

Cyfrannodd y criw swm o arian tuag at wobr yn Noson Llwyddiannau Ysgol Bro Pedr.

Yna, lan i’r Falcondale am wledd o De Prynhawn cyn parhau â’r atgofion.

Dweud eich dweud