Mae cyfres garu realiti newydd sbon, Amour & Mynydd wedi dechrau ar S4C, ac un o’r rhai sy’n cymryd rhan yw Catrin Anna o Gwmann.
Mae’n gyfres pedair rhan sy’n dod ag wyth unigolyn sengl ynghyd, gan gynnig cyfle unigryw iddynt ddod o hyd i gariad – ac efallai darganfod mwy amdanynt eu hunain ar hyd y ffordd. Yn gefnlen i’r cwbl mae golygfeydd syfrdanol yr Alpau Ffrengig.
Dros gyfnod o ddeg diwrnod, bu’r unigolion yn cydfyw yn chalet Amour & Mynydd, ac o dan adain y cyflwynydd Elin Fflur a Gwil Thomas, sy’n gofalu am y chalet, maen nhw’n cael y cyfle i gefnogi’i gilydd drwy amryw o brofiadau bythgofiadwy.
Dywedodd Catrin,
“Blwyddyn i nawr ron i mas ym Meribel am bythefnos yn ffilmio, profiad bythgofiadwy!”
Ond beth oedd Catrin yn meddwl am rannu teimladau personol ar gyfres mor gyhoeddus?
“Rwy wedi bod yn berson agored ac onest erioed am bethach. Doedd dim pwynt o fod yn gyfrinachol achos rodd teulu, ffrindie, cleifion a chleientiad yn gwbod am fy sefyllfa. Wrth rannu fy mhrofiad ar y gyfres ron i’n gobeitho bydden i’n gallu helpu pobl eraill sydd wedi mynd trwy gyfnod anodd a bod modd pigo ein hunen lan a rhoi cynnig ar fynd mas i drial rhywbeth newydd, cwrdd â ffrindie newydd a falle ffeindio cariad!”
Bydd rhaid gwylio’r gyfres tan y diwedd i weld a fu Catrin yn llwyddiannus, ond mae wedi cadw mewn cyswllt â phawb ar ôl cael profiad gwych!
“Mae gan fy nghleifion ddiddordeb mawr … ma nhw i gyd yn gofyn pam bod fi ddim yn briod eto a heb blant. Ma pob un ohonyn nhw’n gobeitho y bydda i’n lwcus cyn hir ond yn gwbod bod bywyd yn braf yn y tŷ newydd gyda Myfanwy’r ci … pam maen bihafio! Bydd y gyfres hefyd yn esbonio pam bod fi wedi lando yng Nghwmann a pham bod pawb yn fy nghlywed i cyn fy ngweld i!”
Dywedodd Elin Fflur,
“Mae hi’n gyfres neith ’neud i bobl wenu, chwerthin a chrio (ella). Mae ’na ’chydig o bob dim ynddi. Os ’dach chi’n licio rhaglenni realiti, fyddwch chi’n caru Amour & Mynydd. Ond dwi’n meddwl bydd hi’n apelio at bawb.”
Esboniodd Elin,
“Dio ddim jest amdanyn nhw’n ffeindio cariad – roedden ni’n dod i ’nabod nhw a’u personoliaethau. Mae rhoi pobl mewn tŷ efo’i gilydd am ddyddiau yn brofiad intense, ac ro’n i’n teimlo drostyn nhw weithiau – roeddet ti’n gwenu efo nhw, yn crio efo nhw, roedd o’i gyd yn rhan o’r profiad.”
Gallwch wylio Amour & Mynydd ar S4C ar nos Fercher am 9 o’r gloch neu wylio eto ar S4C/Clic neu BBC iplayer.