Protest yn y Senedd yn erbyn cynlluniau i adleoli cyrsiau o gampws Llanbed

Dros 80 o fyfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a thrigolion lleol yn protestio ar risiau’r Senedd.

gan Ifan Meredith
IMG_3221

Ar fore Mawrth, yr 21ain o Ionawr, bu dros 80 o brotestwyr yn protestio o flaen y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ynghylch cynlluniau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) i adleoli cyrsiau o’u campws yn Llanbed i Gaerfyrddin.

Ymunodd gwleidyddion fel Elin Jones, Cefin Campbell, Jane Dodds, Adam Price a Janet Finch â’r protestwyr yn ystod y bore.

Cefin Campbell ac Elin Jones yn cyfarch y protestwyr o flaen y Senedd.
Adam Price yn datgan ei farn am gynlluniau PCYDDS.

Llywodraeth Cymru yn “cydnabod” heriau ariannol prifysgolion.

Medd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “cydnabod bod prifysgolion Cymru dan bwysau ariannol sylweddol”

“Mae Medr yn parhau i fonitro sefyllfa ariannol ein prifysgolion yn agos, ac mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yn cyfarfod â Medr ac arweinwyr prifysgolion yn rheolaidd.”

Dweud eich dweud