Llysiau lleol i blant ysgol yng Ngheredigion

Ysgol y Dderi yn rhan o ymgyrch i ddefnyddio llysiau o fferm leol yn ysgolion y sir.

gan Ifan Meredith
Cynhadledd-Gwir-Fwyd-FfermioCSC

Mae ‘Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion’ yn gynllun gan Synnwyr Bwyd Cymru gyda’r nod o ddefnyddio mwy o lysiau wedi eu tyfu’n lleol mewn prydau ysgolion cynradd.

Ceredigion yw’r sir ddiweddaraf i ymuno â’r cynllun sydd yn gydweithrediad rhwng cwmni Castell Howell, Garddwriaeth Cyswllt Ffermio ynghyd â Fferm Holden, Fferm Bwlchwernen sydd ar gyrion Llanbed.

Ar ôl gwthio am lysiau lleol mewn ysgolion, mae Ysgol y Dderi yn un o’r ysgolion fydd yn rhan o’r cynllun.

“falch iawn bod y plant wedi dysgu bod eu llais yn bwysig”

Fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru, mae’n annog datblygiad dinasyddion egwyddorol a gwybodus a bu disgyblion blwyddyn 3 a 4 Ysgol y Dderi ar ymweliad â Fferm Holden i ddysgu am brosiect ‘Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion’.

Yn dilyn yr ymweliad, aeth y disgyblion ati i ganfasio er mwyn ehangu’r cynllun i Geredigion. Bu’r disgyblion yn holi Gill Jones, Pennaeth Arlwyo Cyngor Sir Ceredigion am y prosiect ynghyd ag ysgrifennu at Ben Lake AS ac Elin Jones AS.

Gill Jones o Adran Arlwyo Ceredigion a disgyblion Ysgol y Dderi.

Dysgodd y disgyblion am gadwyni bwyd hefyd gyda Dafydd Walters o Gastell Howell ac yn y diwedd, llwyddodd y disgyblion i greu prosiect allan o’r hyn wnaethon nhw ddysgu.

Penllanw’r prosiect oedd bod moron Bwlchwernen yn cael eu gweini yn yr ysgol adeg cinio.

Dywedodd Pennaeth yr ysgol, Heini Thomas ei bod yn “falch” o’r canlyniad a bod y disgyblion wedi sylweddoli fod “rhaid cael llawer o bobl ddylanwadol yn yr un ystafell ar yr un pryd sydd â’r un nod.”

“Wedi misoedd o ymgyrchu daeth llwyddiant o’r diwedd gyda’r ysgol yn cael y cyfle i fod yn ran o gynllun peilot y llywodraeth. Bu’r plant yn cyflwyno yng nghynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio.” meddai wrth Clonc360.

“opsiwn llawer iachach i’n plant”

Dywedodd arweinydd y cyngor, Bryan Davies bod y prosiect yn “cefnogi busnesau lleol wrth leihau ôl troed carbon cludiant” gan fynd ymlaen i ddweud ei fod yn awyddus i weld mwy o gynnyrch Cymreig ym mhrydau ysgol y sir.

“ysbrydoledig gwybod mai’r plant fu’n gyfrifol am ddylanwadu ar y penderfyniad”

Yn ôl Dr Amber Wheeler, arweinydd y prosiect ‘Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion’, mae’r cynllun yn “cefnogi tyfwyr bwyd a ffermwyr’ a’i fod yn dangos bod modd tyfu cynnyrch yng Nghymru i’w defnyddio yn y wlad.

Gobaith prosiect ‘Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion’ yw “ailgynllunio” cadwyni cyflenwi i fod yn decach ac yn gadarnach. Daw’r cynllun yn dilyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnig prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru.

Bu’r disgyblion yn tynnu moron eu hunain hefyd.

Dweud eich dweud