Becws newydd i hen safle Briwsion

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Cwmni ‘Lewis’s Bread’

Cwmni Lewis o Lanfair Clydogau yn agor siop fara newydd 

Mae cwmni o Lanfair Clydogau wedi cyhoeddi y byddan nhw’n agor siop fara ar Stryd y Coleg Llanbed o fewn yr wythnosau nesaf.

Fe fydd Tracy a Paul Lewis, sy’n gyfrifol am gwmni ‘Lewis’s Bread’, yn agor becws newydd ar hen safle siop Briwsion. 

“Ni newydd gael yr allweddi,” meddai Tracy Lewis, ond doedd hi ddim yn siŵr pryd yn union y byddent yn agor i gwsmeriaid. 

Fe wnaeth y ddau sefydlu eu cwmni bedair blynedd yn ôl ac mae ganddyn nhw ddau gerbyd erbyn hyn i ddosbarthu’r bara. 

“Agor siop oedd y cam naturiol nesaf inni,” meddai Tracy “a ni’n edrych ymlaen yn fawr at wneud hynny mor fuan â phosib.” 

Briwsion 

Daw’r newyddion wedi i gwmni Briwsion gau eu drysau am y tro olaf ddydd Sadwrn (Medi 30). 

Yn ôl Gethin Jones, un o berchnogion Bara Gwalia sy’n gyfrifol am Briwsion, fe fyddan nhw’n canolbwyntio ar ddatblygu eu cwmni yn Llanybydder lle maen nhw wedi prynu adeilad hen fanc Natwest sydd drws nesaf iddyn nhw. 

Yn ogystal, mae’n esbonio fod merch un o’i bobyddion, sy’n wreiddiol o Wlad Pwyl, wedi’i tharo’n wael yn ddiweddar a bod y teulu wedi dychwelyd i Wlad Pwyl am driniaeth.

“Mae’r fasnach yn dda yn Llanbed ac mae siawns dda i rywun agor popty arall yma a gwneud bywoliaeth dda,” meddai wedyn. 

Y Popty 

Becws arall sydd wedi rhoi’r gorau i bobi yn Llanbed yw cwmni Y Popty sy’n wreiddiol o Aberaeron. 

Fe gaeodd Y Popty ei drysau am y tro diwethaf ar Fedi 30, ac maen nhw hefyd wedi cau eu cangen yn Aberystwyth ar ddiwedd mis Awst eleni.

Esboniodd y perchennog, Pete Davies, ei fod am ganolbwyntio ar ddatblygu’r busnes yn Aberaeron oherwydd – “dyna ble dechreuodd y cyfan.” 

Mae’n dweud bod cwmni cadwyn Greggs wedi dod â “chystadleuaeth iach i’r dref” ond – “y mwyaf sy’n bwyta o’r gacen, y llai ohono sy’n mynd i fod ar gael”.