Gallwch nawr ddewis o blith 112 o fannau gwefru ledled Ceredigion i wefru eich cerbyd trydan.
Darperir 76 o’r rhain gan Gyngor Sir Ceredigion mewn 18 o leoliadau gwahanol, gan gynnwys meysydd parcio Cwmins a Rookery yn Llanbed.
Yn dilyn cyflwyno dau gam o osodiadau seilwaith cerbydau trydan yn llwyddiannus ym meysydd parcio Cyngor Sir Ceredigion, mae gan y sir bellach y nifer uchaf o fannau gwefru cerbydau trydan i’r cyhoedd eu defnyddio fesul 100,000 o’r boblogaeth ledled Cymru gyfan.
Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023, mae gan Geredigion 158.5 o bwyntiau gwefru fesul 100,000 o’r boblogaeth o gymharu â chyfartaledd Cymru o 60.7. Darllenwch adroddiad Llywodraeth Cymru.
Mae’r pwyntiau gwefru yma ar gael yn gyhoeddus i drigolion ac ymwelwyr â Cheredigion eu defnyddio, ac maent wedi’u lleoli yn y lleoliadau canlynol:
Llanbedr Pont Steffan
Maes Parcio Cwmins – 8 man gwefru
Maes Parcio Rookery – 6 man gwefru
Aberaeron
Canolfan Hamdden Aberaeron – 2 fan gwefru
Maes Parcio Swyddfeydd Penmorfa – 4 man gwefru
Maes Parcio Ffordd y Gaer (‘Crossville’) – 4 man gwefru
Glan y Môr, Traeth y Gogledd – 4 man gwefru
Tregaron
Maes Parcio Iard y Talbot – 4 man gwefru
Aberystwyth
Maes Parcio Coedlan y Parc – 6 man gwefru
Canolfan Hamdden Plascrug – 4 man gwefru
Maes Parcio Swyddfeydd Canolfan Rheidol – 4 man gwefru
Maes Parcio Ffordd y Gogledd – 4 man gwefru
Y Borth
Neuadd Gymunedol Borth – 2 fan gwefru
Aberteifi
Maes Parcio Sgwâr Cae Glas – 2 fan gwefru
Canolfan Hamdden Aberteifi, Ffordd y Gogedd – 4 man gwefru
Feidr Fair – 6 man gwefru
Llandysul
Maes Parcio Llandysul – 4 man gwefru
Ceinewydd
Maes Parcio Ffordd yr Eglwys – 4 man gwefru
Maes Parcio Stryd y Cware (‘Paragon’) – 4 man gwefru
Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon:
“Rydym yn hynod falch o ba mor bell rydym wedi dod wrth ddelio â’r broblem garbon sy’n ein hwynebu i gyd, a bydd y gwaith hwn yn parhau’n egnïol i sicrhau bod Ceredigion ar flaen y gad o ran mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn dangos ymrwymiad a’r pwysigrwydd y mae Ceredigion yn ei roi i’r agenda hon, a gobeithio yn gwneud y penderfyniad i newid i gerbydau trydan yn haws, nid yn unig ar gyfer trigolion Ceredigion, ond hefyd ar gyfer y rheiny sy’n ymweld â’n sir hardd.”
Mae cyllid ar gyfer trydydd cam o osodiadau mannau gwefru cerbydau trydan hefyd wedi cael ei sicrhau a bydd yn cael ei ddarparu yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Gallwch ddarllen mwy am y cynlluniau i’w cyflwyno ymhellach yn ystod 2023-24 yn ein Strategaeth a’n Cynllun Gweithredu Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV).