Gan ddechrau dydd Sadwrn yma, 09 Rhagfyr, bydd cyfle i chi barcio am ddim ym meysydd parcio’r Cyngor Sir i wneud eich siopa Nadolig a chefnogi’n lleol eleni.
Ni fydd costau parcio ym meysydd parcio Talu ac Arddangos y Cyngor ar 09, 16 a 23 Rhagfyr eleni er mwyn galluogi siopwyr ac ymwelwyr dros gyfnod y Nadolig i gefnogi busnesau lleol y sir ar adeg hanfodol i fusnesau.
“Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu agor ein meysydd parcio am ddim i helpu i gefnogi busnesau lleol, boed hynny’n siopau, caffis, tafarndai a bwytai yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig,” meddai’r Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet dros faterion Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol.
“Mae ein busnesau lleol yn creu profiad siopa Nadoligaidd gwych yn ein trefi ac felly byddem yn annog pawb i wneud y gorau o’r parcio am ddim a siopa’n lleol dros gyfnod yr ŵyl.”
Mae’r taliadau yn ein meysydd parcio Talu ac Arddangos yn rhesymol ac yn cael eu gwneud yn gyfleus trwy ddulliau di-arian.
Gallwch weld lleoliadau o holl Feysydd Parcio Talu ac Arddangos a weithredir gan y Cyngor ar wefan y Cyngor.