Dyma sylwadau Odwyn Davies, Olmarch sydd yn weithgar iawn yn ardal Llangybi wrth geisio adfer hen adeilad yng nghanol y pentref at ddefnydd yr ieuenctid.
Mae Canolfan Capel Cilgwyn Llangybi yng nghanol y Pentref, Capel hanesyddol a gafodd ei sefydlu ger fferm y Cilgwyn tua 1540.
Symudwyd y Capel i lawr i’r pentref yn 1840. Fe gauwyd y Capel fel lle addoli tua’r pum degau a bu yn ddolur i’r llygad yn y pentref ar hyd y blynyddoedd.
Doedd neb â diddordeb yn yr adeilad felly cymerwyd y lle drosodd gan aelodau o’r aelwyd yn 1984. Bu’r ieuencid wrthi am ddwy flynedd yn codi arian ac yn tacluso lle i gael Canolfan Chwaraeon yn y pentref ac fe agorwyd y lle yn 1986.
Erbyn hyn mae eisiau ail wneud y to ac yr ydym wedi dod lawr i restr o 50 allan o ddwy fil mewn cystadleuaeth am arian. Jewsons sydd yn cynnig y grant yma i ddatblygu gweithgareddau a gwella cyflesterau mewn ardaloedd.
Gan ein bod wedi cyrraedd y 50 olaf, y ffordd ymlaen yn awr yw i bobl i bledleiso dros Ganolfan Chwaraen Capel Cilgwyn ar https//www.buildingbettercommunities.co.uk
Y dyddiad cau yw 31ain Mai 2015. Diolch am eich cefnogaeth.