Côr Cwmann yn diddanu ymwelwyr tramor â Longwood

gan Alun Jones
Côr Cwmann yn diddanu ymwelwyr tramor
Côr Cwmann yn diddanu ymwelwyr tramor

Mae profiadau pleserus yn dod ar draws aelodau Côr Cwmann ambell dro, a dyna fu hanes y gyngerdd yn neuadd Eglwys Llanfair Clydogau nos Sadwrn 13eg o Fehefin.

Cawsom ein gwahodd gan Goedwig Gymunedol Longwood i gyflwyno rhaglen Gymreig ei naws i gynhadledd o bobl oedd yn ymddiddori mewn fforestydd a choedydd cynaliadwy. Clod i Goedwig Gymunedol Longwood ar ddenu cynyrcholwyr o wledydd ar draws y byd i ardal mor wledig â Betws Bledrws a Llangybi i astudio y fenter di-elw hon.

Cymeradwyaeth yr ymwelwyr
Cymeradwyaeth yr ymwelwyr

Mae’n werth nodi y gwledydd oedd yn cael eu cynrychioli yma yng Ngheredigion sef Bolivia, Cambodia, Cameroon, C A R, Congo-Brazza, Cote D’lvoire, D R C, Ecuador, Ghana, Guatemala, Guyana, Honduras, Indonesia, Laos, Liberia, Mexico, Myanmar, Peru, Thailand a Vietnam. Mae’r 49 o ymwelwyr yn ymweld â gwledydd Deyrnas Unedig am chwech wythnos.

Bu rhediad y noson yn hollol wahanol i’r arferol gyda chyfarchiad unigol gan y cynadleddwyr, o’r ugain gwlad, a’r cyfarchion hynny yn wledd i’r llygad.  Diolch i Mr Cyril Davies am arwain y noson yn ddeheuig iawn drwy gyfathrebu â dwy ferch oedd yn cyfieithu, un yn Ffrangeg a’r llall yn Sbaeneg.

Y cydberfformio yn Llanfair Clydogau
Y cydberfformio yn Llanfair Clydogau

Roedd y rhan fwyaf o’r cynadleddwyr yn gweithio i lywodraeth eu gwledydd, a beth oedd yn syndod bod cymaint o ferched yn gweithio yn y diwydiant coedwigaeth.

Pinacl y noson oedd bod cyfran o ymwelwyr Cyfandir Affrica wedi ymuno â Chôr Cwmann i ganu’r Affrican Prayer.  Mae wastod yn wledd i’r llygad eu gweld yn dawnsio a chanu.  Noson i’w chofio yn wir.