Gyda thymor yr hydref ar fin dechrau mae clybiau chwaraeon lleol yn apelio am chwaraewyr ifanc newydd a gwirfoddolwyr.
Bydd hyfforddiant pêl-droed Clwb Pêl-droed Iau Llanybydder yn dechrau nos Fercher am 6 o’r gloch ar gaeau Ysgol y Dolau.
Dywdodd Gareth Williams “Mae grwpau oedran o dan 6 hyd at o dan 14 gyda ni. Mae croeso i fechgyn a merched. Mae’n glwb gwych i chwarae drosto”.
Mae’n apelio ar y chwaraewyr presennol a rhieni i fynychu’r hyfforddiant yr wythnos hon ac yn gobeithio gweld wynebau newydd hefyd.
Mae gan Glwb Rygbi Llanbed dimoedd o dan 7 oed hyd at o dan 16 oed. Barry Davies yw un o’r trefnwyr. Dywedodd e “Rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda’r hyfforddi a’r dyfarnu ar gyfer rhai grwpau oedran.”
Cynhelir y gemau fel arfer ar foreau Sul a bydd yr hyfforddiant ar gaeau Cwmann fel a ganlyn: Dydd Llun 6.30 – 8.00yh ar gyfer y rhai o dan 14 oed. Dydd Mawrth 6.00 – 7.00yh ar gyfer y rhai o dan 7, o dan 8, o dan 9, o dan 12 ac o dan 15 oed. Dydd Mercher 6.00 – 7.30yh ar gyfer y rhai o dan 11 oed. Dydd Iau 5.45 – 6.45yh ar gyfer y rhai o dan 13 oed. Mae trefniadau y rhai o dan 10 ac o dan 16 oed i’w cadarnhau.
Gellir gweld amserlen gemau’r tymor hwn ar wefan y clwb.
Mae gan yr ardal glwb hoci llwyddiannus iawn hefyd sef Clwb Hoci Llanybydder. Bydd y timoedd ieuenctid yn dechrau ymarfer ar yr 16eg Medi ar yr astro yn Llanbed.