Ar ail noson o gystadlu yn ystod wythnos Sioe Amaethyddol Llanbedr Pont Steffan daeth tyrfa dda ynghyd.
Cynhaliwyd cystadleuaeth Barnu Gwartheg Bîff nos Fawrth 12fed o Awst ar fferm Cwmhendryd, drwy garedigrwydd teulu’r Hughes. Beirniad y gystadleuaeth oedd Mr Rhydian Davies, Fronfedw, Dihewyd.
Dyma’r canlyniadau:
Dan 18
1af – Dafydd James. Clwb Bryngwyn
2il – Gethin Morgans, Clwb Llanwenog
3ydd – Steffan Rattray, Clwb Trisant a Huw Lewis, Clwb Trisant
Dan 26
1af – Ceris James, Clwb Bryngwyn
2il – Elin Childs, Clwb Llanfynydd
3ydd – Sara Non, Clwb Llanfynydd
4yd – Ffion Rees, Clwb Llanfynydd
Cwpan Her Parhaol er cof am Mr Lloyd Davies Pontfaen yn rhoddedig gan Mr a Mrs Aeron Hughes a’r teulu, Cwmhendryd. Cyflwynir y cwpan i’r cystadleuydd gyda’r marciau uchaf yn adran barnu bîff.
Yn derbyn y cwpan eleni oedd Ceris James o Glwb Bryngwyn.
Agored
1af – Elfyn Morgans
2il – Mair Evans
3ydd – John Jones, Geraint Williams, James Davies a Trudy Davies.
Trefnwyd raffl gan Aeron, Ann a’r teulu i godi arian at Ward Stroc Ysbyty Bronglais. Diolch i’r rhai gyfrannodd wobrau niferus ac i bawb wnaeth brynu raffl, codwyd swm sylweddol at yr achos yma. Diolch i Aeron, Ann a’r teulu am drefnu hyn eleni eto, meant bob blwyddyn yn cynnal raffl i godi arian at achos da sydd â rhyw gysylltiad â’r Pwyllgor.
Diolch i bawb ddaeth i gystadlu a chefnogi’r noson. Edrychwn ymlaen i’ch gweld ar faes y sioe ddydd Gwener.
Bydd cystadleuaeth barnu wyn tew yn cael ei chynnal yn adran y defaid ddydd Gwener am 1:30 y.h.