Mae digwyddiadau wythnos Sioe Amaethyddol Llanbedr Pont Steffan wedi dechrau neithiwr gyda chystadlu da iawn.
Nos Lun y 10fed o Awst cynhaliwyd cystadleuaeth Barnu Gwartheg Godro ar fferm Llanfair Fach drwy garedigrwydd teulu’r Jones. Y beirniad oedd Mr Dai Thomas, Pantffynnon, Llanwnnen. Dyma’r canlyniadau:
Dan 18
1af – Gethin Jones, Clwb San Ishmael
2il – Dafydd James, Clwb Bryngwyn
3ydd – Tomos Griffiths, Clwb San Ishmael
4ydd – Rebeca James, Clwb Llanddewi
Dan 26
1af – Dafydd Evans, Clwb San Ishmael
2il – Gruffydd Evans, Clwb St Peters
3ydd – Bethan Phillips, Clwb San Ishamel
4ydd – Aron Dafydd, Clwb Bro’r Dderi
Agored
1af – Mair Evans
2il – Aeron Hughes, Cwmhendryd
3ydd – Tomos Jones, Felindre
4ydd – Rhys Jones, Cilerwisg
Cofiwch am weddill y cystadlaethau’r wythnos hon. Cynhelir cystadleuaeth barnu da bîff heno ar fferm Cwmhendryd a bydd y sioe ei hunan ymlaen ddydd Gwener hyn ar gaeau Pontfaen Llanbed.