Deg uchaf i Dylan yn Eryri

gan Efa Edwards

marathon eryriTeithiodd cynrychiolaeth gref o glwb rhedeg Sarn Helen i gystadlu ym Marathon Eryri ddydd Sadwrn diwethaf – marathon sy’n cael ei chydnabod i fod gyda’r caleta’ yn Ewrop, os nad y byd.

Os nad yw’r ras yn ddigon caled fel arfer, roedd glaw difrifol yng Ngogledd Cymru fore Sadwrn yn ychwanegu mwy fyth o her i’r 2500 o redwyr oedd yn cystadlu.

Glyn Price a Dylan Lewis (Llun Ronnie Roberts)
Glyn Price a Dylan Lewis (Llun Ronnie Roberts)

Dylan Lewis oedd y cyntaf o griw Llanbed i groesi’r llinell derfyn yn Llanberis, gan orffen yn nawfed yn y ras mewn amser ardderchog o 2:51:50.

Glyn Price oedd yr ail redwr Sarn Helen i orffen mewn 03:15:28, yn safle 80, ac yn ddeuddegfed yn y categori i ddynion dros 45 oed.

Y trydydd o’r clwb i gwblhau’r ras oedd Nigel Davies mewn 03:26:20, yn safle 148 yn y ras gyfan ond rhif 38 yn y categori i ddynion dros 40.

Eleri Rivers oedd y ferch gyntaf o Sarn Helen i gwblhau’r cwrs mewn amser o 04:04:23, gan sicrhau safle 64 yn ras y merched, a yn unfed ar bymtheg yn ei chategori merched dros 40.

Roedd yn ymdrech lew gan Jane Louise Holmes hefyd gydag amser o 06:10:08.

John Gilbert o Kent AC enillodd brif ras y dynion mewn record newydd i’r cwrs sef 2:33:38Tracy McCartney o’r clwb lleol, Eryri Harriers oedd yn fuddugol yn ras y mercher mewn 3:08:44.

Canlyniadau rhedwyr eraill Sarn Helen.

Gethin Jones a Carwyn Thomas (Llun: Ronnie Roberts)
Gethin Jones a Carwyn Thomas (Llun: Ronnie Roberts)

Gethin Jones  – 03:34:53

Kevin Hughes – 03:39:12

Tony Hall – 03:44:24 (chweched yn y categori i ddynion dros 60 oed)

Carwyn Thomas – 03:56:44

Eric Rees – 04:15:19

Terry-Wyn Jones – 04:22:16

Haydn Lloyd – 04:42:35

Steven Holmes – 06:10:08