Llwyddiant Ras Llanwenog

gan Efa Edwards
Enillwyr Ras Llanwenog 2015
Holl enillwyr Ras Hwyl Llanwenog 2015

Daeth criw da ynghyd i gystadlu yn Ras Hwyl Llanwenog fore dydd Sul, a manteisiwyd ar y tywydd ffafriol gydag amseroedd da yn y rasus plant ac oedolion.

Cynhaliwyd rasus y plant i ddechrau, gyda thri categori oedran. Cai Allan enillodd y ras i fechgyn 4-7 oed, gyda Nia Williams yn ferch gyntaf. Faye Jones oedd y ferch gyntaf yn y ras i blant 8-11 oed, a Rhys Williams yn gyntaf o’r bechgyn.

Yn y ras oedran uwchradd 12-15 oed, Daniel Willoughby oedd y cyntaf o’r bechgyn i groesi’r llinell, gyda Gwen Thomas yn gyntaf o’r merched.

Y brif ras i’r oedolion oedd yr un 6.5 milltir, ac ar ôl iddo gystadlu ym Marathon Eryri yr wythnos flaenorol, Ken Caulkett o Glwb Athletau Aberystwyth oedd y cyntaf i groesi mewn amser ardderchog o 0:39:33. Owain Schiavone oedd yn ail mewn amser o 0:40:46, gan gipio’r wobr am y rhedeg di-glwb cyntaf yn y broses.

Enillydd 2013, Glyn Price, oedd y rhedwr cyntaf o Sarn Helen i orffen gydag amser o 0:41:49 yn sicrhau’r trydydd safle, a’r wobr gyntaf am y categori 40 – 49 oed. Yn dyn ar ei sodlau roedd ei gyd-redwr Sarn Helen, Carwyn Davies mewn 0:42:06 yn cipio’r trydydd safle agored i ddynion.

Rhedwraig Sarn Helen enillodd ras y merched sef Dee Jolly gydag amser 0:49:44. Roedd Kate McDermott, hefyd o Sarn Helen yn ail mewn 0:50:57, a Nicola Higgs oedd y drydedd ferch yn y categori agored (16-34 oed) mewn 1:02:13.

Eleri Rivers o Sarn Helen oedd y ferch gyntaf yn y categori 35 – 44 oed (0:51:49) gyda Helen Willoughby’n gyntaf yn y categori i ferched dros 45 (0:52:13).

Capten Clwb Sarn Helen, David Thomas, enillodd y categori i ddynion 50 oed a throsodd mewn amser da iawn o 0:46:05.

Dyma’r rhestr enillwyr yn llawn:

Cynradd 4 – 7 oed Bechgyn

1af    Cai Allan                    2il     Christopher Readwin   3ydd Sion Jones

 

Cynradd 4 – 7 oed Merched

1af    Nia Williams               2il     Elin Lloyd                   3ydd Ellie Maie Jones

 

Cynradd 8 – 11 oed Bechgyn

1af    Rhys Williams             2il     Jack Caulkett              3ydd Jamie Jones

 

Cynradd 8 – 11 oed Merched

1af    Faye Jones                2il     Sara Thomas              3ydd Violet Coulkett

 

Uwchradd 12 – 15 oed Bechgyn

1af    Daniel Willoughby       2il     Dafydd Lloyd              3ydd Danny Jones

 

Uwchradd 12 – 15 oed Merched

1af    Gwen Thomas

 

Oedolion 16+ Menywod

1af    Helen Davies              2il     Carol Rees                 3ydd Tracy Lewis

 

Agored 6 milltir Dynion 16 – 39 oed

1af    Ken Caulkett              2il     Owain Schiavone                3ydd Carwyn Davies

 

Menywod 16 – 34 oed

1af    Dee Jolly                    2il     Kate McDermott          3ydd Nicola Higgs

 

Dynion 40 – 49 oed

1af    Glyn Price                  2il     Andrew Davies           3ydd Howard Thomas

 

Menywod 35 – 44 oed

1af    Eleri Rivers                2il     Carys Davies              3ydd Caroline Jones

 

Dynion 50 oed a throsodd

1af    David Thomas            2il     Huw Price                  3ydd Tony Hall

 

Menywod 45 oed a throsodd

1af    Helen Willoughby                2il     Jane Wilkins               3ydd Delyth Crimes

Mae modd gweld yr amseroedd llawn ar wefan Online Race Results.